Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r cwrs, gallwch symud ymlaen i harddwch lefel tri. Bydd y cwrs hwn hefyd yn eich paratoi ar gyfer diwydiant ac yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio mewn salonau, sbas, siopau adrannol, gwestai a llongau gwyliau. Mae llawer o fyfyrwyr o Goleg Ceredigion wedi mynd ymlaen i sefydlu eu busnesau eu hunain neu i weithio i sbas yn eu hardal leol ac ymhellach i ffwrdd. Mae hwn yn gwrs rhagorol sy'n darparu’r cyfle i chi hogi eich sgiliau gwasanaeth cwsmer, i weithio gyda'r cyhoedd ac i adeiladu enw da a chronfa gleientiaid.
Gall harddwr/harddwraig weithio mewn llawer o ddiwydiannau fel gwestai a sbas yn rhoi triniaethau amrywiol megis triniaethau i’r wyneb, triniaethau ewinedd a chynnig cyngor arbenigol mewn amgylchedd proffesiynol.