Mae ein salonau gwallt a harddwch wedi’u cynllunio’n benodol at ddibenion hyfforddi ac mae ganddynt yr holl gyfarpar ac adnoddau diweddaraf. Bydd angen i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig iawn ac yn barod i weithio fel rhan o dîm. Fel adran rydym yn awyddus i annog myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau mewnol a chenedlaethol hefyd. Yn ogystal rydym yn cynnal diwrnodau cyfoethogi sy’n cynnwys, lliwio affinage, tyllu clustiau, farnais ewinedd gel, estyniadau gwallt a cholur theatrig. Byddwch yn ogystal yn cael y cyfle i fynychu sioeau masnach, seminarau, gweithdai yn ogystal â theithiau a drefnir sy’n gysylltiedig â’r sector.