Bydd rhaid prynu iwnifform lawn sy'n cadw at reoliadau diogelwch bwyd a chod gwisg y coleg, gwerslyfr a set o gyllyll. Gellir prynu'r rhain trwy ein cyflenwr enwebedig, neu gellir derbyn iwnifform a chyfarpar a brynwyd yn flaenorol gyda chaniatâd tiwtor y cwrs.
Mae gwibdeithiau addysgol gartref a thramor hefyd yn cael eu cynnig i ddysgwyr ar y cwrs hwn. Gellir cynnig profiad gwaith heb unrhyw gost ychwanegol i’r dysgwr. Hefyd, cynigir cymhwyster Diogelwch Bwyd lefel dau heb unrhyw gost ychwanegol.