Croeso i’r Adran Fodurol yng Ngholeg Ceredigion. Cymerwch y camau angenrheidiol i ddod yn dechnegydd cerbydau cwbl gymwys gyda'n gweithdy ymarferol a'n cyfleusterau ystafell ddosbarth.
Un flwyddyn academaidd yw'r tair lefel a byddwch yn ymdrin â phynciau fel technoleg injan, trawsyriant, teiars, siasi, trydanol ac electronig, iechyd a diogelwch ac offer a chyfarpar.
Mae’r cyfleusterau o fewn ein dau weithdy cerbydau modern yn cynnwys:
-
Lifftiau cerbyd dau bostyn
-
Blociau injan hyfforddi
-
Rigiau injan go iawn
-
Offer llaw arbenigol
-
Cyfarpar ffitio teiars a chydbwyso olwynion
-
Cyfarpar diagnostig electronig modern
-
Cerbydau a chydrannau go iawn
Cynigir adnoddau addysgu yn ddwyieithog drwy sesiynau ymarferol a sesiynau ystafell ddosbarth.