Campus slider
Campus slider
previous arrow
next arrow

Rhan Amser

Mae astudio cwrs rhan-amser yng Ngholeg Ceredigion yn agor llu o gyfleoedd newydd. Gydag ystod eang o gyrsiau rhan-amser i ddewis ohonynt, mae rhywbeth at ddant pawb.

Bydd dewis astudio yng Ngholeg Ceredigion yn rhoi sgiliau newydd i chi, yn symbylu eich diddordeb ac yn cynyddu eich hyder yn eich bywyd bob dydd. Ni fyddwch ar eich pen eich hun gan y byddwch yn rhannu eich profiad dysgu â chymuned eang o fyfyrwyr o bob oedran a chefndir.

Mae myfyrwyr yn dilyn astudiaethau rhan-amser am resymau gwahanol iawn: mae rhai yn astudio er mwyn gwella eu gobeithion gyrfaol trwy ddatblygu sgiliau proffesiynol; mae rhai yn ceisio newid eu ffordd o fyw trwy ddysgu sgiliau newydd i’w helpu i ddechrau eu busnesau eu hunain, tra bod cryn dipyn o’n myfyrwyr yn dod i ddatblygu neu gychwyn hobi a chwrdd â phobl newydd. Mae’r cyrsiau ar gael i ddysgwyr 16 oed a throsodd.

Mae gan y Coleg ystod gynhwysfawr ac eang o raglenni addysg a hyfforddiant academaidd a galwedigaethol. Mae’r rhain yn amrywio o lefel cyn mynediad i lefel ôl-raddedig, gan ddarparu gwasanaeth i’r gymuned ddysgu gyfan. Mae’n cynnig addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned, addysg uwch a phrentisiaethau dysgu yn y gweithle.

Dysgu Oedolion Fesul Maes Cwrs.

Cysylltu

Am ragor o fanylion, neu i ofyn am daflen gyrsiau, cysylltwch â ni ar 01554 748179 neu anfonwch e-bost i admissions@colegsirgar.ac.uk 

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB