"Rydyn ni’n cadw llygad ar agor yn gyson am gyfleoedd newydd ac amrywiol ar gyfer ein haelodau i helpu datblygu sgiliau newydd a chael blas ar fyd gwaith, y tu hwnt i’w hamgylchedd rygbi beunyddiol.
Roedd y cwrs barista a drefnwyd gan Goleg Sir Gâr ar y cyd â chwmni Coaltown Coffee, nid yn unig yn addysgiadol i’r aelodau a wnaeth fynychu ond roedd hefyd yn ymarferol, yn rhyngweithiol ac yn llawer o hwyl yn ogystal. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Choleg Sir Gâr ar fwy o gyrsiau hyfforddiant yn y dyfodol."