Designer

Busnes, Cyllid a Gwasanaethau Cyhoeddus

Busnes

Yn yr amgylchedd cyfnewidiol hwn ni fu Rheolaeth Busnes erioed mor bwysig ac mor hanfodol i lwyddiant a'n nod yw cefnogi pobl i ddatblygu eu sgiliau busnes, p’un ai ar gyfer chwilio am waith, cychwyn eu busnes eu hunain neu addysg uwch.

Mae'r cwrs yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y cyfleoedd ehangach y gall cymhwyster busnes eu darparu trwy gyfres o weithgareddau dan arweiniad dysgwyr ac sydd wedi’u hwyluso gan diwtoriaid. Mae’r rhain yn cynnwys ymgysylltu â busnesau lleol, gwaith tîm, tasgau arwain, a rheoli digwyddiadau gyda chyfleoedd posibl i gymryd rhan yng nghynllun Erasmus i gael lleoliad dramor a hefyd cyfleoedd am leoliadau gwaith yn yr amgylchedd busnes lleol.

Mae siaradwyr ymweliadol ac entrepreneuriaid sy'n dod i mewn i'r coleg yn darparu enghreifftiau byd go iawn o heriau busnes a chyfle i ddysgu mwy am fusnes gan arweinwyr busnes profiadol. Gyda ffocws cryf ar Gymru a'i lle yn y Byd mae digon o gyfleoedd i chi i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg a diwylliannol a’u datblygu hefyd a chymryd rhan mewn cyfleoedd busnes.

Gwasanaethau Cyhoeddus

Bydd y cwrs gwasanaethau cyhoeddus yn darparu rhaglen astudio gynhwysfawr a heriol i chi a fydd yn eich helpu i gymryd eich camau cyntaf tuag at yrfa yn cefnogi'r cyhoedd.

 
Byddwch yn dysgu'r sgiliau hanfodol ar gyfer ystod eang o swyddi ar draws y sector gwasanaethau cyhoeddus, o'r gwasanaethau arfog a'r heddlu i rolau mewn awdurdodau lleol a llywodraeth ganolog.
 
Bydd Coleg Ceredigion yn cydweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys i ysbrydoli a magu brwdfrydedd dysgwyr er mwyn iddynt ystyried gyrfa yn y sector.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB