Prentisiaeth Sylfaen - Cyfrifeg

Disgrifiad o'r Rhaglen



Mae’r fframwaith hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y proffesiwn cyfrifeg. Mae prentisiaeth sylfaen yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith lefel dau, lle mae'r dysgwr yn ‘ennill wrth ddysgu’.  Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth. Caiff y prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Sylfaen lefel dau o fewn y raddfa amser gytunedig.


Nodweddion y Rhaglen



Bydd myfyriwr sydd yn cwblhau’r cymhwyster hwn yn datblygu sgiliau mewn cofnodi dwbl a bydd yn deall sut i ddefnyddio dyddlyfrau, cyfrifon rheoli a mantolen brawf. Hefyd, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyddio pecyn meddalwedd cyfrifyddu, sut i brosesu gwybodaeth ariannol yn unol â gweithdrefnau ac atodlenni’r cwmni, a sut i ddarparu gwybodaeth i gydweithwyr, cyflenwyr a/neu gwsmeriaid yn ôl y gofyn.

Bydd yr AAT yn gofyn i bob myfyriwr gofrestru gyda'r Corff Proffesiynol.  Gall cyfyngiadau aelodaeth fod yn berthnasol.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.aat.org.uk.


Dilyniant a Chyflogaeth



Mae’r fframwaith hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sy’n dymuno dilyn gyrfa yn y proffesiwn cyfrifeg. Mae prentisiaeth sylfaen yn rhaglen ddysgu seiliedig ar waith lefel dau, lle mae'r dysgwr yn ‘ennill wrth ddysgu’.  Bydd y prentis yn gyflogedig ac yn derbyn o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaeth. Caiff y prentis ei ryddhau/ei rhyddhau am ddydd i fynychu'r coleg a dylai gyflawni'r Fframwaith Prentisiaeth Sylfaen lefel dau o fewn y raddfa amser gytunedig.


Asesu'r Rhaglen



Mae'r asesiadau yn y cymhwyster hwn yn ymarferol ar gyfrifiadur gyda chyfyngiad amser.  Bydd ystod o fathau o gwestiynau a fformatau yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr yn yr asesiad. Gall y rhain gynnwys cwestiynau amlddewis, cwestiynau llenwi bwlch rhifol, neu ddulliau cwestiynau sy'n dyblygu gweithgareddau yn y gweithle, megis gwneud cofnodion mewn dyddlyfr.


Gofynion y Rhaglen



Nid yw AAT yn gosod unrhyw ragofynion ar gyfer astudio Tystysgrif Sylfaen AAT mewn Cyfrifyddu.  Fodd bynnag, er mwyn cael y cyfle gorau o lwyddiant, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau gyda safon dda mewn Saesneg a Mathemateg.  Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gymwysterau ysgol neu goleg perthnasol eraill, gradd neu rywfaint o brofiad cyfrifyddu, mewn amgylchiadau penodol efallai bydd y rhain yn caniatáu i fyfyrwyr hawlio eithriadau.