Rhaglen dwy flynedd lefel tri yw hon sy'n anelu at roi’r cyfle i chi ddatblygu eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a'ch sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd pwnc sy'n gysylltiedig â'r gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd yn rhoi golwg realistig i chi ar y gwasanaethau cyhoeddus fel amgylchedd gwaith gwerth chweil.
Mae’r rhaglen yn cynnwys pum uned orfodol ac unedau opsiynol a fydd yn eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o feysydd megis trosedd a'r gyfraith, yn ogystal ag unedau sy'n caniatáu cyfleoedd i gynnal ymchwil i yrfaoedd yn y gwasanaethau cyhoeddus sydd o ddiddordeb arbennig i chi.
Mae cymwysterau cenedlaethol lefel tri BTEC mewn gwasanaethau cyhoeddus yn galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer dilyniant i gymwysterau lefel uwch megis graddau neu ddiplomâu cenedlaethol uwch. Byddai gyrfaoedd sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â'r diploma a'r diploma estynedig yn cynnwys swyddog yr heddlu, ymladdwr tân, parafeddyg, aelod o Luoedd EM, Cyllid a Thollau EM, sefydliadau gwasanaethau cymunedol a sefydliadau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau brys.
Byddwch yn dilyn llwybr sgiliau lle byddwch yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau angenrheidiol ar C neu uwch hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Mae asesu parhaus, monitro gwaith cwrs ac aseiniadau'n cyfrif tuag at y dyfarniad terfynol.
Bydd arnoch angen pum TGAU graddau A* - C, sy’n cynnwys naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg iaith a mathemateg. Neu, gwblhau cymhwyster lefel dau yn llwyddiannus mewn pwnc galwedigaethol perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.
Asesir yr holl ymgeiswyr ar sail unigol a chynigir cyfle iddynt i ddod am gyfweliad ar gyfer y cwrs.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol