@Aberista yw bwyty hyfforddi proffesiynol Coleg Ceredigion ar gampws Aberystwyth. Mae myfyrwyr yn dysgu eu crefft gan ddefnyddio cyfarpar cyfoes, yn perffeithio'r sgiliau technegol sydd eu hangen i baratoi, coginio a gweini prydau o ansawdd uchel mewn lleoliad cyfoes lle mae'r addurniad yn adlewyrchu'r ardal arfordirol.