Dyma'r prif rifau cyswllt os oes gennych unrhyw ymholiadau, gofidiau neu bryderon am eich diogelwch neu'ch lles.
Vanessa Cashmore (Cyfarwyddwr Profiad Dysgwr)
Arweinydd Diogelu Dynodedig
vanessa.cashmore@colegsirgar.ac.uk
07388387881 or 07989822252
Helen Griffith (Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd)
griffithh@ceredigion.ac.uk
01970 639700
Nick Byrne (Rheolwr Prosiect Cynnydd)
nick.byrne@ceredigion.ac.uk
01970 639700 or 01239 612032
Ffion Evans (Swyddog Lles Myfyrwyr Aberystwyth)
ffion.evans@ceredigion.ac.uk
01970 639700
Meinir Lewis (Swyddog Lles Myfyrwyr Aberteifi)
meinir.lewis@ceredigion.ac.uk
01239 612032
Nifer fach iawn o fyfyrwyr sy'n llwyddo i gyflawni eu hastudiaethau heb fod angen peth cymorth ychwanegol neu gyngor arnynt. Yn aml, gall y tiwtoriaid cwrs ddarparu hyn ond yn ystod eu cyfnod ar gwrs bydd angen i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ofyn am gyngor neu gymorth arbenigol ar fater nad yw o bosibl yn ymwneud yn uniongyrchol â'r cwrs. Dyna pam rydyn ni yma. Ar draws yr holl gampysau mae gennym staff cyfeillgar, hawdd mynd atynt yn y tîm Cefnogi Dysgwyr sy'n cyflawni gwahanol rolau. Byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael eich rhoi mewn cysylltiad â'r person iawn i'ch helpu os na fedrwn ni wneud hyn ein hunain. Weithiau gall hynny olygu y byddwn yn galw ar asiantaeth allanol y mae eisoes gennym gysylltiadau ardderchog â nhw. Gallwch chi wneud apwyntiad neu gallwch alw heibio i'n gweld ni unrhyw amser.
Rydyn ni am i'n dysgwyr deimlo'n ddiogel mewn amgylchedd lle mae pawb yn parchu ei gilydd. Os yw unrhyw un o'n dysgwyr yn teimlo'n anniogel, yn cael eu bwlio, neu'n cael eu gwneud i deimlo'n anghysurus yn gyffredinol, rydym am glywed ganddynt neu gan unrhyw bobl sy'n gwybod am y broblem, er mwyn i ni ddelio â'r mater ar unwaith.
Ein hymrwymiad yw cefnogi ein dysgwyr er mwyn eu galluogi i gwblhau eu cwrs yn llwyddiannus, gan gyrraedd eu potensial llawn ar hyd y ffordd. Mae'n bosibl mai dim ond un sgwrs pum munud o hyd am gyllid gyda Gweinyddwr Cyswllt Myfyrwyr neu Swyddog Lles Myfyrwyr fydd ei hangen arnoch neu efallai apwyntiadau rheolaidd, dwysach bob wythnos neu bob mis gyda Chynghorwr y Coleg, Mentor neu ddarlithydd Cymorth Dysgu.
Beth bynnag yw'r cymorth neu'r cyngor sydd ei angen arnoch, pa mor fach neu fawr yw'r broblem neu pa mor ddifrifol neu ddibwys yw hi yn eich barn chi, mae'n debygol iawn y byddwn wedi dod ar ei thraws o'r blaen yn barod, felly rydym yn eich annog i ddod i gael sgwrs gyda ni.