Disgrifiad o'r Rhaglen

Os oes diddordeb gennych mewn celfyddydau perfformio, neu gelf a dylunio, yna mae’n bosibl bod y cwrs hwn i chi.  Mae’r cwrs yn rhoi’r profiad ymarferol i chi i helpu datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth fydd yn eich arfogi i barhau i gwrs lefel tri ac yna ymlaen i gyflogaeth o fewn y sector creadigol cystadleuol ac eang hwn.

Cipolwg

  Llawn Amser

  Blwyddyn

  Campws Aberystwyth

Nodweddion y Rhaglen

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gwrs lefel tri.  Bydd yn datblygu eich sgiliau technegol i wneud i'ch gwaith sefyll allan a bydd yn rhoi’r wybodaeth, yr ysbrydoliaeth ac yn bennaf oll yr hyder i chi i archwilio eich perfformiad a’ch syniadau artistig creadigol eich hun.  Mae gennym ddull hyblyg, gyda ffocws ar wneud eich syniadau a’ch gwaith creadigol, yn unigryw ac yn ganolbwyntiedig ar y diwydiant. 

Byddwch yn astudio ystod o ddisgyblaethau mewn celfyddydau perfformio megis actio, canu a dawnsio gyda phwyslais cryf tuag at greu eich sgiliau a thechnegau perfformio eich hun. 

Mae’r cwrs celf a dylunio’n cwmpasu ystod eang o sgiliau celf gan ddefnyddio gwahanol gyfryngau i ddatblygu hyder a mynegiant creadigol, gyda phrosiectau ymarferol, ymweliadau ag orielau celf a chyfle i lunio portffolio ar gyfer symud ymlaen i astudio pellach.

Cynnwys y Rhaglen

Cwmpesir ystod o gynnwys cwrs, gan gynnwys: 

  • Datblygu sgiliau a thechnegau actio
  • Arddangosfa ddawns
  • Y diwydiant celfyddydau perfformio
  • Prosiect perfformio

Tair uned mewn celf a dylunio:

  • Archwilio gwaith artistiaid a dylunwyr
  • Datblygu syniadau mewn ymateb i friff  
  • Archwilio hunanddelwedd 

Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn derbyn addysgu a chymorth ychwanegol i astudio naill ai ar gyfer TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Dilyniant a Chyflogaeth

Bydd cyflawni'r cymwysterau hyn yn caniatáu i chi symud ymlaen i astudio cymwysterau galwedigaethol ar Lefel 3, megis y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Celfyddydau Perfformio, a'r Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Celf a Dylunio. 

Mae'r cyrsiau hyn yn paratoi dysgwyr yn benodol ar gyfer mynd i gyflogaeth neu brentisiaethau, neu symud i addysg uwch mewn prifysgolion neu ysgolion drama a chelf.

Asesu'r Rhaglen

Asesir unedau yn fewnol.

Gofynion y Rhaglen

Bydd angen i bob ymgeisydd fynychu gweithdy a chyfweliad ac arddangos lefel gallu. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.     

Mae arnoch angen o leiaf pedwar TGAU ar raddau A* i D gyda dwy radd C, un naill ai'n Gymraeg (iaith gyntaf) / Saesneg neu fathemateg.  Neu, gwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.

Costau Ychwanegol

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB