Mae hwn yn gwrs dwy flynedd llawn amser sy’n datblygu dealltwriaeth ddyfnach ac ystyriol o gelf a dylunio. Byddwch yn archwilio deunyddiau, dulliau a phrosesau wrth i chi lunio portffolio proffesiynol o waith. Mae’r cymhwyster hwn yn eich paratoi ar gyfer astudio pellach neu gyflogaeth mewn diwydiannau’n cynnwys graffeg, darlunio, celfyddyd gain, dylunio 3D, ffasiwn a thecstilau a ffotograffiaeth.
Bydd y flwyddyn gyntaf yn eich annog i archwilio ystod o ddisgyblaethau a phrosesau a fydd yn datblygu’n arbenigedd. Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddatblygu arbenigeddd ar gyfer cynhyrchu corff o waith i’w arddangos a phortffolio gweledol sy’n addas ar gyfer gwneud ceisiadau am gyrsiau gradd a chyfleoedd cyflogaeth.
Cipolwg
Llawn Amser
2 Flynedd
Campws Aberystwyth
Nodweddion y Rhaglen
Mae’r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o ddatblygiad sgiliau, arbrofi a symbyliad ar draws ystod o ddisgyblaethau. Ei nod yw rhoi cipolwg i chi ar ymwybyddiaeth feirniadol a chyd-destunol yn ogystal â chael dealltwriaeth o ystod o ddulliau a sgiliau priodol i ddatrys problemau creadigol cymhleth a chyflwyno gwaith i gynulleidfaoedd priodol. Yn ei dro, mae hyn yn eich helpu i adnabod y maes penodol o fewn celf a dylunio y dymunwch arbenigo ynddo.
Mae sylwadau tiwtor a chymheiriaid yn rhoi modd i adfyfyrio’n effeithiol a phriodol ar sgiliau, dulliau, gweithredoedd a chanlyniadau eich gwaith Mae hyn yn eich annog i gymryd perchnogaeth o’ch dysgu eich hun, eich datblygiad a gwneud penderfyniadau.
Cynnwys y Rhaglen
Mae’r cwrs yn cynnwys 13 o unedau sy’n cwmpasu amrywiaeth o bynciau celf, dylunio a chrefft, gan gynnwys 2D, 3D, ffasiwn a thecstilau a digidol a gwaith seiliedig ar amser. Cyflwynir 9 uned yn y flwyddyn gyntaf a 4 uned yn yr ail flwyddyn gan gynnwys prosiect mawr.
Mae ymchwil, ymwybyddiaeth gyd-destunol a datblygiad creadigol sgiliau yn ganolog i gyflwyniad y cwrs hwn. Er mwyn cefnogi hyn, rydym yn ymgorffori ymweliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, darlithwyr ymweliadol a gweithdai arbenigol o fewn y cwricwlwm.
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Sgiliau Hanfodol a rhaglen diwtorial wythnosol.
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd cwblhau’n llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch sy’n cynnwys ystod eang o raddau mewn amrywiaeth o bynciau creadigol, ac mae’n darparu’r sgiliau a all arwain at gyfleoedd addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth pellach mewn amrywiaeth eang o alwedigaethau. Cewch eich cefnogi drwy gydol eich prosesau ymgeisio am radd neu gyflogaeth.
Asesu'r Rhaglen
Caiff yr holl unedau eu hasesu a’u graddio’n fewnol, gyda’r corff dyfarnu UAL (Prifysgol y Celfyddydau, Llundain) yn cymedroli’n allanol ar gyfer y prosiectau mawr terfynol.
Gofynion y Rhaglen
Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith celf, crefft a dylunio i’w cyfweliad.
Asesir addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn y cyfweliad ac yn ogystal cewch wahoddiad i ddod i ddiwrnod rhagflas.
Ar gyfer y diploma estynedig lefel tri bydd angen i chi gael:
Pump TGAU graddau A* i C, sy’n cynnwys naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg iaith a mathemateg. Neu gwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel dau yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.
Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Costau Ychwanegol
Mae yna ffi o £60 ar gyfer deunyddiau yn ystod parhad y cwrs. Gall ymweliadau ag orielau a gweithdai olygu costau ychwanegol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol