Mae’r diploma sylfaen yn gwrs blwyddyn, dwys wedi'i gynllunio i roi profiad trylwyr a chynhwysfawr i chi o gelf, crefft, dylunio a'r cyfryngau. Mae'r cwrs hwn gan Gorff Dyfarnu WJEC yn eich galluogi chi fel myfyriwr, i wneud dewisiadau gwybodus yn eich dilyniant gyrfaol i addysg uwch a / neu gyflogaeth. Mae’r cymhwyster yn canolbwyntio ar ddatblygu creadigrwydd, deall deunyddiau a thechnegau, egwyddorion sylfaenol celf a phwysigrwydd ymchwil cyd-destunol. Bydd yn eich galluogi i ddatblygu disgyblaeth waith gadarn drwy ymarfer rheolaidd a helaeth ac mae’n addas ar gyfer myfyrwyr hŷn (17 a hŷn) sy’n dymuno ehangu eu galluoedd a’u dealltwriaeth o gelf i arbrofi a darganfod a datblygu llwybr gyrfaol.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Aberystwyth
Nodweddion y Rhaglen
Mae’r tiwtoriaid i gyd yn artistiaid gweithredol â ganddynt hanes hir mewn gwaith arddangos ac addysgu a byddwch yn ymgymryd â gweithdai gydag artistiaid ymweliadol o lawer o ddisgyblaethau. Bydd ymweliadau ag orielau a sgyrsiau yn ategu’r rhaglen ddwys o astudiaethau cyd-destunol, gan eich galluogi i ddeall eich gwaith o fewn cyd-destun ymarfer proffesiynol. Mae’r stiwdios celf, mawr, pwrpasol yn caniatáu dosbarthiadau lluniadu’r byw yn ogystal â mannau unigol i alluogi datblygiad gweithgareddau arbenigol. Yn ystod y rhaglen byddwch yn datblygu sgiliau digidol ac yn cael mynediad i gyfrifiaduron Mac ardderchog a meddalwedd Adobe, yn ogystal â stiwdios goleuo a chyfleusterau ystafell dywyll traddodiadol.
Cynnwys y Rhaglen
Caiff y cwrs ei gyflwyno mewn tri cham: arbrofi, arbenigo ac arddangos. I ddechrau, cewch eich annog i archwilio deunyddiau a ffyrdd o weithio mewn modd tra arbrofol, gan feithrin chwilfrydedd unigol a datblygu dealltwriaeth gysyniadol o gelf. O’r sail hon, byddwch yn dechrau datblygu arbenigedd o fewn disgyblaeth benodol o ymarfer celf, boed hynny’n ddylunio, celfyddyd gain, ffotograffiaeth ac yn y blaen, sy’n arwain at arddangosfa o waith yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd myfyrwyr yn symud ymlaen o’r cwrs hwn i ystod o gyrsiau gradd mewn prifysgolion ledled y DU. Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau ar lefel BA mewn disgyblaethau megis celfyddyd gain, ffotograffiaeth, graffeg, darlunio, pensaernïaeth a chyfathrebu ffasiwn. Mae llwybrau dilyniant eraill yn cynnwys hunangyflogaeth a gweithio mewn amrywiol ddiwydiannau creadigol. Mae’r system diwtorial un-i-un yn galluogi rhoi sylw canolbwyntiedig ar ddilyniant unigolion y tu hwnt i’r cwrs.
Asesu'r Rhaglen
Ceir pwyntiau asesu dynodedig trwy gydol y flwyddyn ar ôl cwblhau pob cam pryd y caiff gwaith cwrs ei asesu a'i ddilysu'n fewnol yn erbyn meini prawf graddio'r uned. Ar ddiwedd y cwrs bydd safonwr o goleg celf arall yn ymweld, yn asesu graddau gyda thiwtoriaid ac yn cwrdd â’r myfyrwyr.
Gofynion y Rhaglen
Mwy dymunol fyddai cymhwyster lefel tri (gwell pe bai’n ymwneud â chelf) a phum gradd TGAU A* i C neu gyfwerth, sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg. Gellir derbyn myfyrwyr hŷn heb gymwysterau yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus a chyflwyniad o waith celf.
Costau Ychwanegol
Mae yna ffi o £60 ar gyfer deunydddiau.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB