App
App
previous arrow
next arrow

Prentisiaeth.

Coleg Sir Gâr, ynghyd â Choleg Ceredigion a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw’r darparwr prentisiaethau mwyaf yn y rhanbarth gan gynnig amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi i gefnogi cwmnïau preifat bach, sefydliadau rhyngwladol mawr a’r sector cyhoeddus.

Beth yw Prentisiaeth?

Rhaglen cyllido a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop dan arweiniad Llywodraeth Cymru yw’r rhaglen Hyfforddiant Prentisiaethau.  Mae’r rhaglenni hyfforddiant hyn sy’n seiliedig ar waith yn cynnwys dysgwyr o bob oed, sy’n datblygu a gwella’u sgiliau wrth hyfforddi yn y gwaith.

Caiff prentisiaethau eu cynllunio gan gyflogwyr i adlewyrchu anghenion cyfredol y farchnad a diwydiant. Maen nhw’n cynnig rhaglen strwythuredig sy’n rhoi’r sgiliau angenrheidiol i’r Prentis allu gwneud y swydd yn dda. Bydd gweithwyr yn gweithio at eu cymhwyster Prentisiaeth drwy astudio sgiliau technegol a chynnal asesiadau ymarferol.

Pwy sy’n cael ymgeisio?

Unrhyw un sy’n gyflogedig a thros 16 oed, nad yw mewn addysg lawn amser. Mae prentisiaid yn ennill cyflog ac yn gweithio ochr yn ochr â staff profiadol i ennill sgiliau penodol i’w swydd. Y tu allan i’r gwaith, fel arfer drwy gael eu rhyddhau am ddiwrnodau penodol, mae prentisiaid yn derbyn hyfforddiant i weithio at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae’n bwysig cofio y gall Prentisiaid fod yn gyflogeion newydd neu rai sydd eisoes yn bodoli a does dim angen newid y disgrifiad swydd na’r telerau ac amodau wrth ymgeisio am gyllid Prentisiaeth ar gyfer gweithwyr sydd eisoes yn gyflogedig.

Manteision allweddol:

  • Ennill cyflog
  • Gwyliau â thâl
  • Derbyn hyfforddiant
  • Ennill cymwysterau
  • Dysgu sgiliau penodol i’r swydd
  • Cymwys i weithwyr newydd a rhai sydd eisoes yn gyflogedig
Pa mor hir yw rhaglen Prentisiaeth?

Gall prentisiaethau gymryd rhwng un a phedair blynedd i’w cwblhau gan ddibynnu ar y lefel, gallu’r Prentisiaid a’r sector diwydiant. Gallwch hefyd barhau’n brentis wrth symud o un cymhwyster i un arall.

Ceir lefelau gwahanol o Brentisiaethau:

  • Prentisiaethau Sylfaen (lle gallwch ennill NVQ Lefel 2)
  • Prentisiaethau (lle gallwch ennill NVQ Lefel 3)
  • Prentisiaethau Uwch (lle gallwch ennill cymhwyster Lefel 4 neu Lefel 5)
Oes unrhyw ofynion mynediad?

Mae’r gofynion mynediad yn hyblyg gan nad yw Prentisiaethau’n seiliedig ar gyflawniad academaidd yn unig. Caiff sgiliau ymarferol a’r lefel o ddiddordeb rydych chi’n ei ddangos eu hystyried. Rhaid i chi fod mewn cyflogaeth i ymgymryd â Phrentisiaeth, ond os nad ydych chi’n gyflogedig ar hyn o bryd gallwn eich helpu i ddod o hyd i swydd addas drwy’r Gwasanaeth Cydweddu Prentisiaethau.

Pam ddylwn i gyflogi Prentis?

Gall prentis ychwanegu syniadau, egni a thalent newydd i’ch busnes ac mae wedi’i brofi bod prentisiaid yn cyfrannu at gystadleurwydd sefydliadau. Mae prentisiaid yn awyddus i ddysgu, yn uchel eu cymhelliant a thrwy greu rolau prentis, byddwch chi’n agor y drws i arloesi ac yn ychwanegu gwerth i’ch busnes.

Er bod modd i weithiwr o unrhyw oed ymgeisio i gofrestru ar raglen Prentisiaeth, efallai na fydd angen i’r rheini dan 25 oed dalu Cyfraniadau YG Cyflogwyr (Cliciwch yma am ragor o wybodaeth).

Mae prentisiaethau yn helpu i sicrhau bod gan eich gweithlu’r sgiliau ymarferol yn ogystal â’r cymwysterau i fodloni anghenion eich busnes heddiw ac yn y dyfodol.

  • Mae safonau a chymwysterau cenedlaethol ynghyd â hyfforddiant a datblygu ymarferol yn sicrhau bod Prentisiaid yn cael eu hyfforddi’n dda a’u bod yn gynhyrchiol
  • Gall bod yn rhan o gynllun prentisiaeth ddod â manteision fel cynnydd mewn cynhyrchedd, gwell cystadleurwydd a gweithlu ymroddedig a chymwys.
  •  Mae 77% o fusnesau sydd wedi hyfforddi prentisiaid yn credu ei fod yn gwneud eu cwmni’n fwy cystadleuol.
Pwy sy’n cael cyflogi Prentis?

Gall unrhyw gyflogwr gyflogi prentis. Mae angen i chi fod mewn sefyllfa i dalu’r isafswm cyflog i’r prentis a chyflogi’r prentis am o leiaf 16 awr yr wythnos.

Ceir cymhelliannau ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda’r costau cyflogaeth hyn a gallech chi fanteisio arnyn nhw os ydych chi’n gymwys.

Beth yw Hyfforddeiaeth?

Bydd rhaglen Hyfforddeiaeth yn rhoi’r cymorth, y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnoch chi i symud ymlaen i gyflogaeth, Prentisiaeth neu ddysgu ar lefel uwch

  • Rhaid i chi fod rhwng 16 a 18 oed ac wedi gadael yr ysgol
  • Byddwch yn derbyn lwfans hyfforddi ar gyfer rhaglen Ymgysylltu a Lefel 1 (Ymgysylltu £30 yr wythnos a Lefel 1 £50 yr wythnos)
  • Rhaid i chi fynychu Ymgysylltu am 21 awr yr wythnos i dderbyn £30 yr wythnos
  • Rhaid i chi fynychu Lefel 1 am 37.5 awr yr wythnos i dderbyn £50 yr wythnos
  • Gallwch hefyd dderbyn cymorth gyda chostau teithio
  • Bydd eich hyfforddiant yn dechrau gydag ymsefydlu yn y coleg lle byddwch chi’n cyfarfod â’ch cynghorydd hyfforddi a chytuno ar eich cynllun dysgu unigol a phenderfynu ar eich lleoliad gwaith
  • Nod y rhaglen yw eich helpu i ddatblygu eich sgiliau i ganiatáu i chi symud ymlaen i gyflogaeth, Lefel 1, prentisiaeth neu gwrs coleg llawn amser

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y rhaglen Hyfforddeiaeth bydd angen i chi wneud apwyntiad yn eich swyddfa Gyrfa Cymru leol, lle cewch chi gyfweliad arweiniol ac atgyfeiriad i’r rhaglen gobeithio.

Ble gallaf i gael rhagor o wybodaeth?

I drafod eich anghenion hyfforddi Prentisiaeth ymhellach ffoniwch01970 639700 heddiw neu ebostio business@ceredigion.ac.uk.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Hyfforddeiaeth cysylltwch â Wyn David drwy ebost: wyn.david@colegsirgar.ac.uk

Mae'r Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, yn cael cymorth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB