Mae'r cwrs yn darparu rhaglen astudio y gellir ei chyflawni o fewn blwyddyn.
Mae'n annog dilyniant i'r dysgwyr hynny sydd eisoes wedi cwblhau cwrs lefel dau cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur yn flaenorol.
Mae'r cwrs yn darparu'r hyfforddiant a'r datblygiad sydd eu hangen ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb brwd yn y sector modurol ac sy'n dymuno symud ymlaen i addysg uwch neu lefel gradd. Mae'n cwmpasu sylfaen eang o beirianneg fodurol ac, er ei fod yn seiliedig ar waith ymarferol, mae’n canolbwyntio ar y theori tu ôl i'r technolegau diagnostig sy'n gysylltiedig â'r diwydiant modurol.
Bydd cwblhau’n llwyddiannus yn eich caniatáu i symud ymlaen i ddysgu lefel uwch a dysgu lefel prifysgol
Mae yna hefyd y posibilrwydd o symud ymlaen i'r rhaglen prentisiaeth fodurol, sy'n caniatáu i chi ennill cymhwysedd pellach o fewn y diwydiant modurol.
Dangosir i chi sut i gyflawni amryw o weithdrefnau ymarferol safonol y diwydiant sy'n cynnwys tasgau fel diagnosteg côd nam, diffygion trawsyriant a llinell yriant a gwiriadau/gweithdrefnau MOT.
Cewch eich asesu wrth gyflawni'r tasgau hyn, lle mae'n ofynnol i chi lunio portffolio ymarferol.
Mae’r theori wedi ei rannu yn bum uned amrywiol sy'n cynnwys:
Yna dilynir y rhain gan bum prawf amlddewis ar-lein, sy’n cael eu trefnu ar hyd y flwyddyn academaidd.
Byddwch hefyd yn dilyn llwybr sgiliau lle byddwch yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau angenrheidiol ar C neu uwch hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Seilir yr asesu ar dasgau ymarferol, portffolio o dystiolaeth a hefyd pum prawf theori ar-lein GOLA.
Bydd hi’n ofynnol eich bod wedi cyflawni:
Pum TGAU graddau A* i C, sy’n cynnwys naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg iaith a mathemateg.
Neu gwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel dau yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.
Rhoddir ystyriaeth yn ogystal i ddysgwyr sydd â phrofiad blaenorol perthnasol yn y diwydiant.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £45.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol