Eleni rydyn ni'n dechrau arni’n gynnar ac yn eich gwahodd i gofrestru neu gael eich cyfweld ym mis Mehefin a mis Gorffennaf.
Gobeithiwn y bydd hyn yn rhoi tawelwch meddwl i chi gan wybod bod eich dyfodol yn sicr cyn i chi ymlacio ar eich gwyliau haf.
Bydd cofrestru a chyfweliadau yn cychwyn o ddydd Mercher 30 Mehefin ac yn parhau tan ddydd Mawrth 13 Gorffennaf.
Os ydych wedi gwneud cais am gwrs llawn amser gyda ni y mis Medi hwn byddwch yn derbyn e-bost a neges destun yn fuan yn eich gwahodd i'r Coleg, naill ai i gofrestru neu am gyfweliad ynghylch cofrestru, gydag amser a diwrnod penodol.
Mae'n bwysig eich bod yn cadw at yr amserlen hon fel y gallwn sicrhau bod niferoedd cyfyngedig ar y campws ar unrhyw un adeg (yn unol â chyfyngiadau Covid). Bydd hefyd yn gwneud y broses gofrestru a chyfweld yn ddiffwdan i chi!
Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi i'r campws yn y cyfnod cyn dechrau blwyddyn academaidd 2021-22.
Sylwch fod cofrestru ar raglenni ar lefelau uwch yn amodol ar fodloni gofynion mynediad, ond gallwch fod yn hyderus bod gennym ystod eang iawn o raglenni ar bob lefel i ddiwallu anghenion pawb. Mae rhai rhaglenni hefyd yn gofyn am wiriadau DBS ar gyfer addasrwydd, er enghraifft, os ydych chi'n gweithio gyda phlant.