Croeso i’r tudalennau ‘Cais i Gofrestru’. Rydym yn falch iawn eich bod wedi dewis ymuno â ni yng Ngholeg Sir Gâr.
Fel rhan o'r broses Gofrestru rydym yn gofyn i ddysgwyr Llawn Amser gwblhau’r Holiadur Anghenion Unigol (os yn berthnasol) a’r ffurflen gwneud cais am Gludiant (dim ond os oes angen cludiant a bod meini prawf cymhwyster yn cael eu bodloni).
Mae hyn yn rhoi gwybodaeth hanfodol i ni gan sicrhau bod eich dilyniant i Goleg Sir Gâr mor ddidrafferth ag sy’n bosibl.
Ffi Weinyddol
Byddwch yn ymwybodol y bydd gofyn i bob myfyriwr Addysg Bellach Llawn Amser sy'n cofrestru neu'n dychwelyd i'r Coleg dalu ffi weinyddol o £45.00. Rhaid talu hon wrth gofrestru neu cyn hynny. Mae hon yn debyg i ffïoedd a godir ym mhob Coleg Addysg Bellach cyfagos arall.
Cymorth / arweiniad ariannol, os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon yn ymwneud â materion ariannu cliciwch yma i gael mynediad i fwy o wybodaeth.
Dyddiadau’r Tymhorau, gellir dod o hyd iddynt yma ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2019 / 20.
Dogfennaeth y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (cwrs-benodol) Rhoddir gwybod i chi trwy lythyr os oes angen i chi gael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd tra ydych yn fyfyriwr yma yng Ngholeg Sir Gâr. Cliciwch yma i gael y ddogfennaeth.
Diolch am ddarllen yr uchod. Bydd darlithwyr y cwrs a myfyrwyr presennol yn cadw mewn cysylltiad â chi gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Bydd y tîm derbyn yn anfon gwybodaeth ymlaen atoch ym mis Gorffennaf ynghylch cofrestru ym mis Awst.
Cofion
Yr Uned Dderbyn