Coronafeirws Cwestiynau Cyffredin.

Gobeithiwn y bydd y wybodaeth hon yn eich helpu. Os na allwch ddod o hyd i'r ateb i'ch cwestiwn, anfonwch e-bost i vanessa.cashmore@colegsirgar.ac.uk a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y medrwn.

Gwybodaeth i Ddysgwyr a Rhieni

Beth am fy lleoliad gwaith?

Bydd holl leoliadau gwaith coleg ac eithrio amaethyddiaeth yn cael eu hatal o ddydd Llun 23 Mawrth oherwydd sefyllfa Covid-19. Mae'n annhebygol iawn y bydd unrhyw fyfyrwyr yn gallu mynychu lleoliadau am weddill y flwyddyn academaidd hon.

A fydd Cludiant y coleg yn rhedeg?

Na - mae pob cludiant coleg wedi’i atal hyd nes y bydd hysbysiad pellach.

A oes angen i mi adrodd i'r coleg o hyd os ydw i i ffwrdd yn sâl?

Oes, bydd angen i chi ffonio swyddfa'r campws yn y ffordd arferol.

Rwyf wedi gwneud cais am gwrs, beth sy’n digwydd nawr?

Peidiwch â phoeni, rydym yn parhau i ddelio â phob cais i’r Coleg a byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich lle cyn bo hir.

A fydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar gyfer cyrsiau sy’n cychwyn ym mis Medi?

Byddant, ac os na allwn wneud cyfweliadau wyneb yn wyneb, byddwn yn edrych ar opsiynau eraill i wneud yn siŵr eich bod yn sicrhau eich lle yn y Coleg.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Os oes gennych gwestiynau am eich cais, anfonwch neges e-bost i cyswllt@ceredigion.ac.uk.

Gwybodaeth am Gefnogi Dysgwyr

Alla i gael mynediad i’r gwasanaethau mentora neu gynghori o hyd?

Gallwch. Os oes gennych fentor neu gynghorwr eisoes byddant yn cysylltu â chi yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf gan ddefnyddio eu ffôn coleg fel bod gennych eu rhifau.

Bydd Mentoriaid y Coleg yn cadw mewn cysylltiad â chi trwy What’s App ac, ar gyfer sesiynau hwy, trwy Google Meet neu Hangout. Os na fyddwch yn clywed oddi wrthynt am ryw reswm, yna cysylltwch â:

Matthew.Morgan@colegsirgar.ac.uk - ar gyfer dysgwyr y Graig a Phibwrlwyd

Jamie.Davies@colegsirgar.ac.uk - ar gyfer dysgwyr Rhydaman, y Gelli Aur, Ffynnon Job a Dysgwyr Seiliedig ar Waith

nick.byrne@colegceredigion.ac.uk - ar gyfer dysgwyr Aberystwyth ac Aberteifi

Byddan nhw’n gwneud yn siŵr y bydd mentor yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Os nad oes gennych fentor ar hyn o bryd ond eich bod yn teimlo bod angen rhywfaint o gymorth, cefnogaeth a/neu arweiniad arnoch, yna cysylltwch â'r Cydlynydd Mentoriaid perthnasol uchod a byddant yn gallu eich helpu. Cofiwch fod y gwasanaeth Mentor ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9am - 5pm.

Cynghorwyr: Os ydych eisoes yn cael cefnogaeth gan un o’n cynghorwyr bydd hyn yn parhau, ond dros y ffôn. Bydd eich cynghorwr yn cysylltu â chi i drefnu sesiynau gyda chi. Os na fyddwch yn clywed oddi wrthynt am unrhyw reswm, yna cysylltwch â:

sian.howells@colegsirgar.ac.uk - Uwch Gynghorwr

Cysylltwch â Siân os ydych yn ddysgwr yng Ngholeg Sir Gâr neu Goleg Ceredigion.

Os nad ydych yn cael cefnogaeth gan ein gwasanaeth cynghori ond yn credu eich bod angen y gefnogaeth hon, yna cysylltwch â Siân uchod a bydd hi’n asesu eich sefyllfa ac yn eich cyfeirio at naill ai mentor neu gynghorwr.

Pwy ydw i’n cysylltu ag ef/hi os nad wyf yn teimlo’n ddiogel neu os oes gennyf unrhyw bryderon diogelu?

Os ydych chi'n teimlo'n anniogel ar unrhyw bwynt neu os oes gennych bryderon am rywun arall, yna mae angen i chi gysylltu ag un o'n tîm Diogelu trwy glicio ar y ddolen isod. Gallwch eu ffonio gan ddefnyddio eu rhifau ffôn symudol, anfon e-bost: besafe@colegsirgar, anfon neges drwy Ap y coleg a’r tab Be Safe neu decstio BESAFE a’ch neges i 88020.

https://docs.google.com/document/d/19gIjo71bVr7VA-SFc_QHBWE7hu333xB2gPpjDs_hwiQ/edit?usp=sharing

Cofiwch adael eich enw, manylion cyswllt a natur eich pryder a byddan nhw’n dod nôl atoch chi cyn gynted â phosibl. Os yw’n argyfwng yna ffoniwch 999.

A fydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn dal i dalu fy ffïoedd AU?

Bydd, os byddwch yn parhau i ymgysylltu â’ch rhaglen a chwblhau eich gwaith ar-lein, bydd eich ffïoedd AU yn cael eu talu.

A fyddaf yn dal i gael cefnogaeth ar gyfer fy nghyrsiau AU?

Byddwch, os byddwch yn parhau i ymgysylltu â’ch rhaglen a chwblhau eich gwaith ar-lein, byddwch yn derbyn eich taliadau cynnal.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB