Sut ydw i'n gwneud apwyntiad?
Gallwch chi gyfeirio eich hun ar gyfer cynghori trwy lenwi ffurflen gyfeirio a'i phostio yn un o'r blychau post cynghori cyfrinachol. Mae'r ffurflenni a’r blychau wedi'u harddangos gyda'i gilydd ar waliau pob campws a gellir dod o hyd iddynt fel a ganlyn:
Campws y Graig – tu allan i A44
Campws Rhydaman – Llyfrgell
Campws Ffynnon Job – Ardal y dderbynfa
Campws Pibwrlwyd – Llyfrgell
Campws y Gelli Aur - Llyfrgell
Campws Aberteifi
Campws Aberystwyth
Neu cysylltwch â
counsellingteam@colegsirgar.ac.uk
Ffôn: 01554 748052 (lleisbost cyfrinachol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael rhif cyswllt)
Yn aml mae Tiwtoriaid a Mentoriaid yn cyfeirio myfyrwyr ar gyfer cynghori a gallwch chi ofyn i'ch tiwtor wneud hyn os yw'n well gennych.
Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn gwneud apwyntiad?
Unwaith y mae myfyriwr yn gofyn am gynghori rydym yn trefnu apwyntiad cyn gynted â phosibl. Yn dilyn hyn mae'n bosibl y bydd bach o aros i'r sesiynau cynghori ddechrau, yn dibynnu ar y galw. Byddwn yn blaenoriaethu myfyrwyr sydd mewn argyfwng ac angen cefnogaeth frys a myfyrwyr 16-19 oed. Bydd y cynghorwr yn rhoi gwybod i chi lle mae'r ystafell gynghori a bydd hyn yn dibynnu ar ba gampws rydych chi.
Beth os oes arna i angen siarad â rhywun ar frys?
Os nad oes cynghorwr ar gael gallwch chi siarad â mentor. Ewch i'r adran cefnogi dysgwyr a gofynnwch am gael siarad â mentor neu unrhyw un sydd ar gael. Byddan nhw'n gwrando arnoch chi ac yn helpu i'ch cyfeirio at y gefnogaeth iawn i chi.
Cyfrinachedd
Ni fydd y cynghorwyr yn dweud wrth diwtoriaid, aelodau'r teulu na ffrindiau eich bod wedi bod i'w gweld. Ni fyddant yn trafod hyn gydag unrhyw un, oni bai eich bod wedi cytuno ar hyn gyda’ch gilydd ymlaen llaw. Ar adegau prin, efallai bydd rhaid i gynghorwr siarad â rhywun arall ynghylch yr hyn sy'n digwydd. Dim ond os oes perygl uniongyrchol i chi neu eraill y byddai hyn yn digwydd. Bydd y cynghorwr yn esbonio’r holl agweddau ar gyfrinachedd yn llawn i chi yn ystod eich apwyntiad cyntaf. Mae holl gynghorwyr y coleg yn aelodau o Gymdeithas Cynghori a Seicotherapi Prydain (BACP) ac yn gweithio yn ôl cod moeseg llym.
Am fwy o wybodaeth: http://www.bacp.co.uk
Togetherall
Os oes angen cefnogaeth arnoch chi y tu allan i oriau coleg, gyda'r nos, ar benwythnosau neu yn ystod cyfnodau gwyliau, neu os ydych chi'n astudio'n rhan-amser neu yn astudio ar raglen dysgu seiliedig ar waith ac yn ei chael hi'n anodd cael mynediad i wasanaeth y coleg, mae Togetherall ar gael trwy'r dydd bob dydd.
Ewch i ymweld â thudalen Togetherall ar y safle hwn i gael mwy o wybodaeth neu cliciwch ar y logo isod sy’n mynd â chi yn syth i wefan Togetherall.