Slide 1
Beth yw Prentisiaeth?

Os ydych chi eisoes wedi’ch cyflogi a hoffech chi wella eich sgiliau a’ch gwybodaeth er mwyn symud ymlaen yn eich gyrfa ddewisol, yna gallai prentisiaeth fod y llwybr perffaith i chi.

Slide 1
Beth yw Prentisiaeth?

Os ydych chi eisoes wedi’ch cyflogi a hoffech chi wella eich sgiliau a’ch gwybodaeth er mwyn symud ymlaen yn eich gyrfa ddewisol, yna gallai prentisiaeth fod y llwybr perffaith i chi.

Prentisiaeth


Mae prentisiaid yn cyflawni hyfforddiant yn y gwaith yn ogystal â dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn y coleg hefyd. Trwy wneud hyn, gallwn ni ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich gyrfa ddewisol a gallwch chi ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol. Yn ogystal byddwch chi’n ennill cyflog tra byddwch yn dysgu ac yn derbyn buddion y byddai cyflogeion eraill yn eu cael hefyd.

  • Enillwch gyflog wrth i chi ddysgu – ewch â chyflog adref a mynnwch dâl gwyliau
  • Enillwch gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a sgiliau newydd
  • Gwnewch gynnydd o fewn eich gweithle
  • Mwynhewch brofiadau newydd a heriau
  • Cyfle i ymgymryd â chyrsiau pellach i barhau eich datblygiad

Mae llawer o yrfaoedd llwyddiannus yn dechrau gyda phrentisiaeth. Ar gwblhau, mae 90% o brentisiaid yn aros mewn cyflogaeth.

 

Cysylltwch â’n Tîm Prentisiaethau i drafod yr opsiynau a all gefnogi eich anghenion cyflogaeth yn y dyfodol!

01554 748344
apprenticeship@colegsirgar.ac.uk

Cyflogwyr

Cyflogi staff newydd neu ailhyfforddi staff presennol ar gyfer eich busnes

Prentisiaeth Meysydd Sector

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cynnig ystod amrywiol o Brentisiaethau mewn:

  • Cyfrifeg

  • Amaethyddiaeth a Pheirianneg Ar Dir

  • Adeiladu, Crefftau a’r Amgylchedd Adeiledig

  • Blynyddoedd Cynnar, Plant

  • Peirianneg a Gweithgynhyrchu

  • Cadwraeth Amgylcheddol

  • Ceffylau

  • Trin Gwallt

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

  • Lletygarwch ac Arlwyo

  • Adnoddau Dynol

  • TG

  • Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur

  • Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol

  • Nyrsio Milfeddygol

Mae'r Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, yn cael cymorth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB