Rydyn ni’n credu ei fod yn bwysig bod pob cwmni yn creu cyswllt a chynnig cefnogaeth i’w cymuned leol.
Mae cymunedau’n cefnogi busnesau; mae noddi yn ffordd wych o ddweud diolch trwy helpu eraill i gael mynediad i adnoddau dysgu gwych; yn y pen draw byddwch chi’n cefnogi datblygiad economaidd y rhanbarth ar lefel sylfaenol.
Gall creu cyswllt rhwng eich sefydliad â’n colegau hefyd helpu i godi ymwybyddiaeth o waith eich sefydliad.
Gallwch chi ddewis noddi unrhyw beth o gyfraniad bach i gronfa galedi’r myfyrwyr i drefniant nawdd yn fwy, er enghraifft noddi’r Seremonïau Graddio neu noddi ardal o fewn y coleg fel ein Theatr yr Efail, Campfa Chwaraeon, Salonau Gwallt a Bwyty
Gall nawdd fod ar ffurf cyfraniad ariannol, darparu cyfarpar a deunyddiau neu ddarparu siaradwyr arbenigol i wella profiadau dysgu’r myfyrwyr.
Dyma ychydig o’r cyfleoedd noddi posibl:
Digwyddiadau
Seremoni Raddio – digwyddiad blynyddol ym mis Gorffennaf sydd â mwy na tua 2000 o gyfranogwyr
Dathlu Llwyddiant Myfyrwyr a Staff – digwyddiadau blynyddol i gydnabod a dathlu cyflawniadau dysgwyr a staff o fewn ein meysydd cwricwlwm a rhaglenni.
Cyfarpar neu Adnoddau
Mae ein Coleg bob amser yn ymdrechu i sicrhau bod ein myfyrwyr yn gweithio gydag adnoddau a chyfarpar gorau’r sector.
Gall nawdd neu roddion helpu ein cefnogi i ddarparu adnoddau ychwanegol a fyddai fel arall y tu hwnt i’n cyllidebau cyfyngedig; mae mynediad i dechnoleg flaengar y sector ac adnoddau cyfarpar yn gallu gwella profiad dysgu myfyriwr yn sylweddol ac agor allan amrywiaeth ehangach o gyfleoedd gwaith ar ddiwedd ei gwrs.
Rhaglenni’r Coleg
Mae rhai noddwyr yn dewis noddi rhaglenni penodol yn y Coleg sydd â chysylltiad uniongyrchol â’u busnes. Mae yna ystod eang iawn o raglenni sy’n golygu ar gyfer y rhan fwyaf o sectorau diwydiant y bydd yna gyfle priodol.
Cronfa Galedi’r Myfyrwyr
Mae rhai noddwyr yn dymuno cyfrannu at gronfa galedi’r myfyrwyr sy’n caniatáu i’r Coleg gefnogi myfyrwyr drwy amserau anodd er mwyn eu cynnal ar eu cyrsiau pan fod ganddynt amgylchiadau personol anodd i ddygymod â nhw.