Mae’r cwrs ar-lein dadansoddwr seiberddiogelwch CompTIA (CySA+) yn ardystiad gwerthwr-niwtral, a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy’n defnyddio dadansoddeg ymddygiadol i wella cyflwr cyffredinol diogelwch TG trwy atal, canfod a brwydro yn erbyn bygythiadau seiberddiogelwch. CySA+ yw'r ardystiad dadansoddwr diogelwch mwyaf diweddar sy'n ymdrin â bygythiadau datblygedig yn yr oes ddigidol.
Cwmpesir pynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys pwysigrwydd data a deallusrwydd bygythiol, arferion gorau sicrhau caledwedd, defnyddio technegau fforensig digidol sylfaenol a phwysigrwydd hela bygythiadau yn rhagweithiol. Mae pynciau eraill a gwmpesir yn cynnwys pwysigrwydd preifatrwydd a diogelu data, pwysigrwydd fframweithiau, polisïau, gweithdrefnau a rheolaethau, rheoli bygythiadau, rheoli bregusrwydd, ymateb i ddigwyddiadau seiber a phensaernïaeth diogelwch a setiau offer.
Mae'r cwrs hwn yn paratoi dysgwyr i fod yn barod ar gyfer yr Arholiad CompTIA CySA+ CS0-002 wedi'i ddiweddaru, a’i basio. Mae’n rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i ddysgwyr lwyddo yn y diwydiant seiberddiogelwch.