Mae Tystysgrif Hanfodion TG CompTIA ITF+ yn darparu sgiliau a gwybodaeth TG hanfodol, sylfaenol, ac yn darparu pwynt mynediad i ardystiadau CompTIA pellach, mwy datblygedig, megis Ardystiadau CompTIA A+, Network+, a Security+.
Cwmpesir pynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys cydrannau caledwedd craidd, perifferolion a chysylltwyr, dyfeisiau cyfrifiadura a’r rhyngrwyd pethau, systemau gweithredu a chymwysiadau meddalwedd. Mae pynciau eraill a gwmpesir hefyd yn cynnwys datblygu meddalwedd, hanfodion cronfa ddata, cysyniadau a thechnolegau rhwydweithio, cysyniadau a bygythiadau diogelwch, arferion gorau diogelwch a pharhad busnes a chymorth cyfrifiadurol.
Bydd y cwrs hwn yn helpu dysgwyr i benderfynu ai gyrfa mewn TG yw'r dewis iawn iddynt tra'n eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth ehangach o TG, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol nad ydynt yn dechnegol.