Ardystiad Swyddogol CompTIA A+ (Cyfres Graidd 220-1001 a 220-1002)

Cost y cwrs: £834

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae’r cwrs hyfforddi CompTIA A+ (Cyfres Graidd 220-1001 a 220-1002) yn gwrs TG uchel ei fri. Dyma’r cymhwyster perffaith i’r rheiny sydd am agor y drws i fyd o gyfleoedd gyrfaol ym maes TG gan ddefnyddio sgiliau parod am swydd y mae cwmnïau mwyaf adnabyddus y byd yn eu gweld fel meincnod er mwyn gosod eu safonau TG.

Cwmpesir pynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys mamfyrddau, proseswyr a chof, ehangu mewnol, dyfeisiau storio a chyflenwadau pŵer, perifferolion a chysylltwyr, ffurfweddiadau PC personol a gosod a ffurfweddu argraffwyr. Mae pynciau eraill a gwmpesir yn cynnwys gwasanaethau rhwydwaith, rhithwiroli a chyfrifiadura cwmwl, deall gliniaduron a dyfeisiau symudol, methodoleg datrys problemau a datrys problemau caledwedd craidd a datrys problemau caledwedd a rhwydwaith.

Yn ddiweddar, rhyddhaodd CompTIA ddiweddariad i’w faes llafur ym mis Ionawr 2019 i adlewyrchu y dirwedd ddigidol sy’n newid yn barhaus. Bydd ennill y cymhwyster CompTIA A+, cymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang ac y gellir ymddiried ynddo, yn rhoi gwybodaeth TG a gwybodaeth dechnegol hanfodol i ddysgwyr a fydd yn rhoi’r sgiliau ymarferol, parod am swydd iddynt sy'n eu caniatáu i fynd yn syth i mewn i rôl.

Cipolwg

  Mynediad am 12 mis

  Dysgu Ar-lein

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd am ddechrau gyrfa mewn TG neu unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd ac sydd am ehangu eu set sgiliau.

Gofynion Mynediad

Gall unrhyw unigolyn ddilyn y cwrs hwn gan nad oes unrhyw ofynion mynediad. Mae'n addas ar gyfer dechreuwyr llwyr ac unigolion profiadol.

Dilyniant

Gall gweithwyr proffesiynol TG CompTIA A+ ardystiedig gychwyn ar yrfaoedd mewn llawer o swyddi sy'n ymwneud â TG neu gynnal a chadw TG o ganlyniad i ennill eu hyfforddiant fel Technegydd TG. Er enghraifft, Technegydd Cymorth TG, Peiriannydd TG neu Ddadansoddwr Cymorth TG. Os yw dysgwyr yn dymuno gwneud hynny, gallant hefyd fynd ymlaen i astudio lefel broffesiynol y cymwysterau CompTIA.

Cost

£834

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB