Ardystiad Swyddogol CompTIA Network+ (Cyfres Graidd N10-008)

Cost y cwrs: £594

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae’r ardystiad CompTIA Network+ (Cyfres Graidd N10-008) yn gymhwyster gwerthwr-niwtral a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer gweithwyr proffesiynol TG sy’n arbenigo mewn offer a thechnolegau rhwydweithio. Mae'r cwrs Network+ yn dilysu arbenigedd y dysgwyr i ddylunio a gweithredu rhwydweithiau gweithredol a sut y gallant ffurfweddu, rheoli a chynnal dyfeisiau rhwydweithiau yn seiliedig ar dechnolegau rhwydweithio uwch.

Cwmpesir pynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys hanfodion rhwydwaith cyfrifiadurol, y model cyfeirio OSI, cydrannau rhwydwaith, technoleg ether-rwyd, llwybro pecynnau IP a Rhwydweithiau Ardal Eang (WANs). Mae pynciau eraill a gwmpesir yn cynnwys technolegau diwifr, optimeiddio rhwydwaith, rheoli a diogelwch rhwydwaith, polisïau rhwydwaith ac arferion gorau a datrys problemau rhwydwaith.

I gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd angen i ddysgwyr gwblhau arholiad sy'n cwmpasu'r holl bynciau a gynhwysir yn y cwrs hwn. Mae’n rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i ddysgwyr ddatblygu eu gyrfaoedd yn y diwydiant TG.

Cipolwg

  Mynediad am 6 mis

  Dysgu Ar-lein

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unigolion sy’n dechrau yn y diwydiant TG neu unigolion profiadol sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant TG sydd eisiau symud ymlaen i swyddi eraill.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn felly gall unrhyw un sydd am ddechrau neu ddatblygu eu gyrfa yn y diwydiant TG ddilyn y cwrs hwn.

Dilyniant

Bydd cwrs ar-lein Swyddogol CompTIA Network+ (Cyfres Graidd N10-008) yn helpu dysgwyr i weithredu mewn rolau swyddi TG lluosog gan gynnwys Technegydd Rhwydwaith, Gweinyddwr Rhwydwaith, Cymorth Rhwydwaith, a Desg Gymorth TG.

Cost

£594

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB