Ardystiad Swyddogol CompTIA Security+ (Cyfres Graidd SYO-601)

Cost y cwrs: £594

Disgrifiad o'r Rhaglen

Ein cwrs hyfforddi Tystysgrif CompTIA Security+ yw'r fersiwn SY0-601 wedi'i diweddaru ac mae'n un o'r cymwysterau y mae’r galw mwyaf amdano yn y maes diogelwch TG heddiw. Mae’r ardystiad gwerthwr-niwtral hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau perthnasol sydd eu hangen i ddysgwyr basio eu harholiad CompTIA Security+.

Cwmpesir pynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys hanfodion diogelwch, rheoli risg, cryptograffeg, cysylltedd rhwydwaith, technolegau diogelwch rhwydwaith a ffurweddiad rhwydwaith diogel. Mae pynciau eraill a gwmpesir yn cynnwys dilysu, rheoli mynediad, diogelu gwesteiwyr a data, diogelu systemau arbenigol, diogelwch cymwysiadau, diogelwch cwmwl, diogelwch sefydliadol a chynllunio ac adfer ar ôl trychineb.

Mae CompTIA Security+ yn ardystiad a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy’n dilysu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar ddysgwyr i gyflawni’r swyddogaethau diogelwch allweddol, gan eu helpu i sefydlu gyrfa lwyddiannus ym maes diogelwch TG.

Cipolwg

  Mynediad am 6 mis

  Dysgu Ar-lein

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Bydd y cwrs CompTIA Security+ hwn yn dilysu rhinweddau unrhyw weithiwr proffesiynol ym maes diogelwch TG. Os yw unigolyn yn weithiwr TG proffesiynol sy'n edrych i adeiladu sylfaen mewn diogelwch TG, yna mae'r CompTIA Security+ yn lle perffaith i ddechrau gan ei fod yn defnyddio dealltwriaeth o dechnolegau ac arferion gwerthwr-niwtral.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn felly mae’n agored i unrhyw un sydd am ddechrau eu gyrfa yn y diwydiant TG neu unrhyw un sy'n gweithio yn y diwydiant TG ar hyn o bryd sydd am ddatblygu eu gyrfa.

Dilyniant

Bydd cwblhau'r Dystysgrif CompTIA Security+ hon yn llwyddiannus yn galluogi dysgwyr i chwilio am rolau swyddi amrywiol gan gynnwys fel Technegydd Cymorth TG, Uwch Gymorth TG, Dadansoddwr Seiberddiogelwch, Dadansoddwr Diogelwch Gwybodaeth a Dadansoddwr Diogelwch Rhwydwaith.

Cost

£594

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB