Mae’r Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i gyflogwyr i greu lleoliadau gwaith ar gyfer pobl ifanc . 16-24 oed sy'n hawlio Credyd Cynhwysol

Cynllun Kickstart

Am y Cynllun

Fel cyfryngwr cymeradwy ar gyfer rhaglen Kickstart £2 biliwn y Llywodraeth sydd wedi’i hanelu at helpu pobl ifanc yn ôl i mewn i gyflogaeth, mae Coleg Sir Gâr yn annog busnesau i gysylltu.

Mae’r Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i gyflogwyr i greu lleoliadau gwaith ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sy'n hawlio Credyd Cynhwysol.  Fel cyfryngwr, bydd Coleg Sir Gâr yn partneru â busnesau lleol i greu'r gofyniad lleiaf o 30 o gyfleoedd gwaith ar gyfer pob cais i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Gallwn

  • eich cefnogi chi i greu lleoliadau sy'n cwrdd â gofynion y cynllun
  • cyflwyno cais ar-lein i'r DWP ar eich rhan
  • hawlio cyllid y cynllun gan DWP a'i drosglwyddo i chi fel y cyflogwr

Yn ychwanegol i'r uchod, gall Coleg Sir Gâr eich helpu chi i hyfforddi pobl ifanc sy'n cael eu cyflogi trwy'r cynllun yn ogystal â chynnig cefnogaeth cyflogadwyedd i bobl ifanc. Gall hyn gynnwys:

  • cefnogaeth i chwilio am waith hirdymor, gan gynnwys cyngor gyrfaol a gosod cyrchnodau
  • cefnogaeth gyda CV a pharatoadau cyfweliad
  • cefnogaeth i'r person ifanc gyda sgiliau sylfaenol, fel presenoldeb, cadw amser a gwaith tîm

Mae cyllid ar gael ar gyfer

  • 100% o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol am 25 awr yr wythnos
  • cyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig y cyflogwr
  • isafswm cyfraniadau cofrestru awtomatig cyflogwr

Mae swm o £1,500 fesul swydd hefyd ar gael ar gyfer costau sefydlu, cefnogaeth a hyfforddiant.

wneud cais am y cyllid, waeth beth fo'i faint, cyhyd â bod y swyddi sy'n cael eu creu yn newydd.

Ni allant ddisodli swyddi gwag presennol neu rai sydd wedi'u cynllunio, ac ni allant beri i weithwyr neu gontractwyr presennol golli neu leihau eu cyflogaeth.

Rhaid i'r rolau a grëir feddu ar y meini prawf canlynol

  • o lleiafswm o 25 awr yr wythnos, am chwe mis
  • talu o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu grŵp oedran ar hyn o bryd £4.55 ar gyfer pobl ifanc 16-17 oed, £6.45 ar gyfer pobl ifanc 18-20 oed a £8.20 ar gyfer pobl ifanc 21-24 oed
  • ni ddylent fynnu bod pobl yn ymgymryd â hyfforddiant helaeth cyn iddynt ddechrau'r lleoliad gwaith

Ar ôl i leoliad gael ei greu, yna gall ail berson ifanc ei gymryd unwaith y bydd y person ifanc cyntaf wedi cwblhau ei dymor o chwe mis.

 

Sut i Wneud Cais

Er mwyn gwneud cais am gyllid trwy’r cynllun bydd angen:

  • eich cyfeirnod Tŷ’r Cwmnïau neu rif y Comisiwn Elusennau (os yw'n berthnasol)
  • cyfeiriad a manylion cyswllt eich sefydliad
  • manylion y lleoliadau gwaith a'u safleoedd
  • gwybodaeth ategol i ddangos bod y lleoliadau swyddi yn swyddi newydd ac yn cwrdd â meini prawf y Cynllun Kickstart
  • gwybodaeth am y gefnogaeth y gall y sefydliad ei rhoi i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd pobl ifanc

E-bostiwch ni yn Sue.Rea@colegsirgar.ac.uk neu ffoniwch 07920 247 403 am fwy o wybodaeth

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB