Os ydych chi eisoes wedi’ch cyflogi a hoffech chi wella eich sgiliau a’ch gwybodaeth er mwyn symud ymlaen yn eich gyrfa ddewisol, yna gallai prentisiaeth fod y llwybr perffaith i chi.
Slide 1
Beth yw Prentisiaeth?
Os ydych chi eisoes wedi’ch cyflogi a hoffech chi wella eich sgiliau a’ch gwybodaeth er mwyn symud ymlaen yn eich gyrfa ddewisol, yna gallai prentisiaeth fod y llwybr perffaith i chi.
Prentisiaethau - Cyflogwyr
Cynllunnir prentisiaethau o gwmpas anghenion eich busnes a gallant helpu i drawsffurfio eich sefydliad trwy gynnig llwybr i fachu talent newydd ffres.
Gall fod yn gyfle i uwchsgilio aelod presennol o’r staff neu gyflogi aelod newydd sbon o’r tîm i ymuno â’ch gweithlu.
Os ydych chi’n dewis ailhyfforddi aelodau o’ch staff neu gyflogi prentis, gall helpu gyda:
Lleihau costau busnes
Datblygu gweithlu medrus proffesiynol
Darparu cyfleoedd i ehangu eich busnes
Gwella cynhyrchiant
Meithrin talent i wella eich gwasanaethau
Rhoi hwb creadigol i’ch busnes
Adeiladu sylfeini busnesau cryfach
Ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol
Ailhyfforddi
Oes gennych chi aelodau staff presennol sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau newydd fydd o fantais i’ch busnes?
Staff newydd
Rydyn ni’n hyderus y gallwn ni helpu chi i ddod o hyd i’r prentis perffaith i ateb eich anghenion busnes.
Beth mae cyflogwyr yn dweud am fanteision prentisiaethau ?
Gweithlu mwy ymrwymedig:
Mae 92% o gyflogwyr sy’n cyflogi Prentisiaid yn credu bod prentisiaethau yn arwain at weithlu mwy brwdfrydig a bodlon
Trosiant staff is, lleihad o ran costau recriwtio:
Mae 83% o gyflogwyr sy’n cyflogi prentisiaid yn dibynnu ar eu rhaglen brentisiaethau i ddarparu’r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol
Delwedd yn well a boddhad cwsmeriaid yn fwy:
Mae 81% o ddefnyddwyr yn ffafrio defnyddio cwmni sy’n cymryd prentisiaid
Ysbryd cystadleuol cynyddol:
Mae 80%
o’r cyflogwyr hynny sy’n cyflogi prentisiaid yn cytuno eu bod yn gwneud eu gweithle’n fwy cynhyrchiol
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cynnig ystod amrywiol o Brentisiaethau mewn:
Cyfrifeg
Amaethyddiaeth a Pheirianneg Ar Dir
Adeiladu, Crefftau a’r Amgylchedd Adeiledig
Blynyddoedd Cynnar, Plant
Peirianneg a Gweithgynhyrchu
Cadwraeth Amgylcheddol
Ceffylau
Trin Gwallt
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lletygarwch ac Arlwyo
Adnoddau Dynol
TG
Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur
Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol
Nyrsio Milfeddygol
Cysylltwch â’n Tîm Prentisiaethau i drafod yr opsiynau a all gefnogi eich anghenion cyflogaeth yn y dyfodol!
01554 748344
apprenticeship@colegsirgar.ac.uk
Mae'r Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, yn cael cymorth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB