Mae’r cwrs hyfforddi CompTIA A+ (Cyfres Graidd 220-1001 a 220-1002) yn gwrs TG uchel ei fri. Dyma’r cymhwyster perffaith i’r rheiny sydd am agor y drws i fyd o gyfleoedd gyrfaol ym maes TG gan ddefnyddio sgiliau parod am swydd y mae cwmnïau mwyaf adnabyddus y byd yn eu gweld fel meincnod er mwyn gosod eu safonau TG.
Cwmpesir pynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys mamfyrddau, proseswyr a chof, ehangu mewnol, dyfeisiau storio a chyflenwadau pŵer, perifferolion a chysylltwyr, ffurfweddiadau PC personol a gosod a ffurfweddu argraffwyr. Mae pynciau eraill a gwmpesir yn cynnwys gwasanaethau rhwydwaith, rhithwiroli a chyfrifiadura cwmwl, deall gliniaduron a dyfeisiau symudol, methodoleg datrys problemau a datrys problemau caledwedd craidd a datrys problemau caledwedd a rhwydwaith.
Yn ddiweddar, rhyddhaodd CompTIA ddiweddariad i’w faes llafur ym mis Ionawr 2019 i adlewyrchu y dirwedd ddigidol sy’n newid yn barhaus. Bydd ennill y cymhwyster CompTIA A+, cymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang ac y gellir ymddiried ynddo, yn rhoi gwybodaeth TG a gwybodaeth dechnegol hanfodol i ddysgwyr a fydd yn rhoi’r sgiliau ymarferol, parod am swydd iddynt sy'n eu caniatáu i fynd yn syth i mewn i rôl.