Ein cwrs hyfforddi Tystysgrif CompTIA Security+ yw'r fersiwn SY0-601 wedi'i diweddaru ac mae'n un o'r cymwysterau y mae’r galw mwyaf amdano yn y maes diogelwch TG heddiw. Mae’r ardystiad gwerthwr-niwtral hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau perthnasol sydd eu hangen i ddysgwyr basio eu harholiad CompTIA Security+.
Cwmpesir pynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys hanfodion diogelwch, rheoli risg, cryptograffeg, cysylltedd rhwydwaith, technolegau diogelwch rhwydwaith a ffurweddiad rhwydwaith diogel. Mae pynciau eraill a gwmpesir yn cynnwys dilysu, rheoli mynediad, diogelu gwesteiwyr a data, diogelu systemau arbenigol, diogelwch cymwysiadau, diogelwch cwmwl, diogelwch sefydliadol a chynllunio ac adfer ar ôl trychineb.
Mae CompTIA Security+ yn ardystiad a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy’n dilysu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar ddysgwyr i gyflawni’r swyddogaethau diogelwch allweddol, gan eu helpu i sefydlu gyrfa lwyddiannus ym maes diogelwch TG.