Ardystiad Swyddogol Hanfodion TG CompTIA ITF+ (Cyfres Graidd FCO-U61)

Cost y cwrs: £375

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae Tystysgrif Hanfodion TG CompTIA ITF+ yn darparu sgiliau a gwybodaeth TG hanfodol, sylfaenol, ac yn darparu pwynt mynediad i ardystiadau CompTIA pellach, mwy datblygedig, megis Ardystiadau CompTIA A+, Network+, a Security+.

Cwmpesir pynciau amrywiol yn y cwrs hwn gan gynnwys cydrannau caledwedd craidd, perifferolion a chysylltwyr, dyfeisiau cyfrifiadura a’r rhyngrwyd pethau, systemau gweithredu a chymwysiadau meddalwedd. Mae pynciau eraill a gwmpesir hefyd yn cynnwys datblygu meddalwedd, hanfodion cronfa ddata, cysyniadau a thechnolegau rhwydweithio, cysyniadau a bygythiadau diogelwch, arferion gorau diogelwch a pharhad busnes a chymorth cyfrifiadurol.

Bydd y cwrs hwn yn helpu dysgwyr i benderfynu ai gyrfa mewn TG yw'r dewis iawn iddynt tra'n eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth ehangach o TG, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol nad ydynt yn dechnegol.

Cipolwg

  Mynediad am 12 mis

  Dysgu Ar-lein

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Unigolion sy'n dymuno cychwyn ar yrfa mewn TG ond sy'n newydd i'r diwydiant hwn, dyma'r lle gorau i unigolion ddechrau. Mae'r ardystiad hwn yn cwmpasu pynciau hanfodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol TG lefel mynediad gan gynnwys ymwybyddiaeth o ddiogelwch, swyddogaethau systemau gweithredu cyffredin a sefydlu cysylltedd rhwydwaith. Byddai'r cwrs hwn hefyd yn addas ar gyfer myfyrwyr sy'n ystyried gyrfa mewn TG, gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn meysydd sy'n gofyn am ddealltwriaeth eang o TG a staff Gweithrediadau, Gwerthu a Marchnata mewn sefydliadau TG.

Gofynion Mynediad

Y cwrs hwn yw’r man cychwyn perffaith ar gyfer gyrfa yn y diwydiant TG.

Dilyniant

Trwy ennill Tystysgrif Hanfodion TG CompTIA ITF+, bydd dysgwyr yn gallu dangos i gyflogwyr eu bod yn gallu rheoli'r offer TG y mae eu sefydliad yn penderfynu eu rhoi ar waith, tra’n arddangos eu sgiliau technolegol, gan eu gwneud yn gaffaeliad i'r busnes. Yr ardystiad hwn yw'r cam cyntaf tuag at yrfa mewn TG ac ochr yn ochr ag ardystiadau CompTIA eraill, gall dysgwyr weithio mewn rolau swyddi megis Dadansoddwr Cymorth TG Iau, Technegydd Cymorth TG, Peiriannydd Rhwydwaith Iau, Datblygwr Meddalwedd Iau a Dadansoddwr Busnes Iau.

Cost

£375

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB