Cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau llythrenedd, rhifedd a’ch galluoedd digidol. Darperir cyfleoedd yn ogystal i wella graddau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg. Mae enghreifftiau o unedau yn y prif gymhwyster yn cynnwys:
Cyflwyno Cynhyrchion y Cyfryngau a Chynulleidfaoedd
Nod yr uned hon yw caniatáu i ddysgwyr ddeall sefydliadau’r cyfryngau, sut maen nhw’n gweithio a’r cynhyrchion maen nhw’n eu cynhyrchu.
Byddwch yn dysgu am brosesau cynhyrchu, cynulleidfaoedd targed, dosbarthu a marchnata drwy ddadansoddi cynhyrchion y cyfryngau.
Ffotograffiaeth ar gyfer cynhyrchion y Cyfryngau
Trwy gwblhau’r uned hon byddwch yn deall ffotograffau proffesiynol a ddefnyddir mewn cynhyrchion cyfryngau. Byddwch yn dysgu sut i gynllunio i gymryd ffotograffau ar gyfer cynnyrch cyfryngau penodol, gan gynnwys sut i gymryd a golygu ystod o ffotograffau. Yn ogystal byddwch yn dysgu sut i adolygu’r ffotograffau terfynol a gynhyrchir.
Cynhyrchion cyfryngau Ffilm a Theledu
Trwy gwblhau’r uned hon, byddwch yn deall cynhyrchion cyfryngau ffilm a theledu presennol. Byddwch yn gallu cynllunio ar gyfer cynhyrchu darn dau funud, ar gyfer cynnyrch cyfryngau ffilm neu deledu gwreiddiol. Byddwch yn ennill peth sgiliau ymarferol trwy gynhyrchu a golygu eich darn eich hun.
Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn derbyn addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.