Mae campws Aberystwyth Coleg Ceredigion yn Academi Microsoft Imagine (MIA) ac yn ganolfan Brofi Certiport drwyddedig. Mae'r Academi yn cynnig cyfle i gyfranogwyr ddysgu a chael gwybodaeth gyfredol am y rhaglenni Microsoft Office diweddaraf, megis Word, Excel, PowerPoint ac Access.
Mae'r adnodd cyffrous hwn yn fantais go iawn i fyfyrwyr gan y profwyd bod ardystiad yn gwella cyflogadwyedd. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr, o ystyried bod Rhagamcaniadau Cyflogaeth BLS yn rhagweld y bydd angen sgiliau technoleg mewn 73% o swyddi newydd yn y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn sicrhau bod pob defnyddiwr ardystiedig wedi dangos y gallu i feistroli nodweddion ac ymarferoldeb llawn Microsoft Office, gan eu paratoi ar gyfer cyfleoedd academaidd neu’r gweithlu yn y dyfodol.
Bydd y gallu i ddangos sgiliau TGCh uwch mewn meddalwedd o safon diwydiant yn gwneud gwir wahaniaeth wrth fynd i mewn i'r farchnad swyddi. Mae Ardystiad Microsoft yn arbennig o werthfawr gan ei fod yn cael ei gydnabod mor eang ym myd busnes. Nid yn unig i’n myfyrwyr y mae’n fuddiol, ond mae cofrestru ar gyrsiau'r Academi yn ffordd wych i aelodau cymuned ehangach Ceredigion wella eu cyflogadwyedd, a hefyd dylai fod yn ddeniadol i fusnesau lleol sy’n anelu at godi safonau mewn cynhyrchiant ac effeithlonrwydd yn y gweithle. Mae'r Academi yn cyflwyno'r dulliau dysgu mwyaf effeithiol,diweddaraf, gan gyfuno cyswllt wyneb yn wyneb â hyfforddwyr ag astudio annibynnol ar-lein.