Cyllid Myfyrwyr.

Mae sut y byddwch chi'n cynnal eich hun yn ariannol drwy gydol eich amser yn y coleg yn rhywbeth yr ydym yn eich annog i wneud cyn gynted â phosibl.  Mae yna nifer o grantiau, benthyciadau a chronfeydd ar gael ar gyfer myfyrwyr yn dibynnu ar ba gwrs yr ydych yn ei astudio.  Ni fyddwch chi'n gymwys ar gyfer pob un ohonynt; yn anffodus, efallai na fydd rhai dysgwyr yn gymwys i dderbyn unrhyw un.

Fel arfer, gallwch ddechrau gwneud ceisiadau am eich cyllid myfyriwr yn ystod y mis Ebrill cyn i chi ddechrau ym mis Medi.

Bydd y canlynol yn rhoi syniad i chi o'r hyn sydd ar gael gyda ffurflenni perthnasol a dolenni cyswllt er mwyn i chi allu lawrlwytho neu argraffu'r ffurflenni sydd eu hangen arnoch. Os oes angen rhagor o gyngor ac arweiniad arnoch, help gyda llenwi ffurflenni neu wirio ffurflenni cyn eu cyflwyno, mae gennym dîm ymroddedig o Weinyddwyr Cyswllt Myfyrwyr sydd yn barod i helpu.  Rydym am wneud yn siŵr eich bod yn cael mynediad i'r holl gymorth ariannol sydd ar gael i chi.

Addysg Bellach

Mae yna dair prif ffynhonnell o gyllid ar gael i fyfyrwyr Addysg Bellach; sef y Lwfans Cynnal Addysg (16-18 oed), Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (19+ oed) a'r Gronfa Ariannol wrth Gefn.  

Byddwch yn anfon eich ffurflen gais am Lwfans Cynnal Addysg (EMA) neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG) a thystiolaeth i Cyllid Myfyrwyr Cymru, er bydd angen i chi hefyd lofnodi Cytundebau Dysgu ar gyfer y rhain yn y coleg pan fyddwch yn dechrau. 

Mae angen i'ch ffurflen Cronfa Ariannol Wrth Gefn gael ei chyflwyno at eich Gweinyddwr Cyswllt Myfyrwyr ar eich prif gampws.

Lwfans Cynnal Addysg

Tâl wythnosol o £30 yw'r Lwfans Cynnal Addysg (EMA) i helpu pobl ifanc 16-18 oed gyda chost addysg bellach.  Caiff taliadau eu gwneud bob pythefnos cyhyd â'ch bod yn bodloni gofynion presenoldeb, perfformiad ac ymddygiad y coleg.  Byddwch yn derbyn llawer mwy o wybodaeth am y rhain yn ystod eich cyfnod cynefino â'r coleg.

Rhoddir EMA ar sail prawf modd; gallwch ddod o hyd i'r meini prawf cymhwyster perthnasol yn:

http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ab/lca.aspx

Gallwch argraffu'r ffurflenni cais yma neu ofyn amdanynt o'ch campws agosaf:

 

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru

Gall Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG) ddarparu cyllid i'ch helpu gyda chostau eich addysg os ydych yn 19 oed neu'n hŷn ac ar gwrs cymwys.  Os ydych yn astudio'n llawn amser gallwch gael taliadau o hyd at £1,500 y flwyddyn neu, os ydych yn astudio'n rhan-amser, gallwch gael hyd at £750 y flwyddyn.

Rhoddir Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar sail prawf modd a gall eich statws dibyniaeth hefyd effeithio ar y swm yr ydych yn ei dderbyn, gallwch ddod i hyd i'r meini prawf cymhwyster yn:

http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ab/gdllc-ab.aspx

Gallwch argraffu'r ffurflenni cais yma neu ofyn amdanynt o'ch campws agosaf.

 

Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn

Nod y Gronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF) yw eich cynorthwyo trwy godi rhai rhwystrau ariannol a allai effeithio arnoch o ran gwneud eich cwrs.  

Gall y gronfa gynnig cyfraniadau sylweddol tuag at gost eich ffioedd gofal plant os oes gennych blant ifanc mewn crèche neu feithrinfa neu blant hŷn mewn clybiau ar ôl ysgol.  Gall hefyd eich helpu'n ariannol gyda chostau cit, cyfarpar cwrs, gwiriadau DBS a chostau teithio os ydych chi, am unrhyw reswm, yn methu â chael mynediad i rwydwaith cludiant am ddim y coleg.  

Serch hynny nid yw'n gallu helpu gyda phopeth; yn anffodus ni allwn helpu gyda chost ffioedd cychwynnol y cwrs (os oes rhai) ac ni allwn eich helpu gydag unrhyw ddyledion a allai fod gennych.  Siaradwch â'r Gweinyddwr Cyswllt Myfyrwyr perthnasol ar eich prif gampws, mae'r manylion i'w gweld yma:

Aberystwyth

Ffion Evans, Coleg Ceredigion, Campws Aberystwyth, SY23 3BP

ffion.evans@ceredigion.ac.uk 07443 352 674 or 01970 639 700

Aberteifi

Caryl Rockley, Coleg Ceredigion, Campws Aberteifi, SA43 1AB

caryl.rockley@ceredigion.ac.uk 01239 612 032

Fel gyda'r rhan fwyaf o gyllid myfyrwyr caiff y Gronfa Ariannol Wrth Gefn ei rhoi ar sail prawf modd ac mae ond ar gael i'r rheiny sy'n gallu dangos caledi ariannol; fel rheol gyffredinol, os ydych yn derbyn Lwfans Cynnal Addysg neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ac ar gwrs cymwys yna dylech fod yn gymwys ar gyfer y Gronfa Ariannol Wrth Gefn.

Caiff y gronfa ei darparu i holl golegau Cymru gan Lywodraeth Cymru a gall y swm o arian a dderbynnir i gefnogi myfyrwyr amrywio'n flynyddol; gan fod y swm o arian sydd gennym yn gyfyngedig, caiff y gronfa ei rhedeg yn gyfan gwbl ar sail 'y cyntaf i'r felin'.  O ganlyniad, rydym yn eich cynghori'n gryf i wneud cais am y gronfa hon cyn gynted â phosibl.  Mae angen i geisiadau am gostau gofal plant gael eu cyflwyno erbyn diwedd mis Medi ac ni fydd unrhyw geisiadau am gostau cit/cyfarpar yn cael eu derbyn ar ôl 31ain Hydref.  

 

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB