Bwrsariaethau
Mae gan y coleg nifer o fwrsariaethau sydd ar gael i fyfyrwyr llawn amser; fodd bynnag, mae arian y bwrsariaethau hyn yn gyfyngedig - felly po gynharaf y gwnewch gais, gorau i gyd fydd eich siawns o gael un. Bydd myfyrwyr fel arfer yn gymwys ar gyfer hyd at un fwrsariaeth coleg yn unig. Bydd Ymadawyr Gofal yn gymwys ar gyfer hyd at ddwy (ymadawyr gofal ac un arall). Rhaid gwneud ceisiadau erbyn 1 Tachwedd 2021. Mae pob bwrsariaeth yn amodol ar eich bod yn bodloni gofynion mynediad, rheolau a rheoliadau’r coleg.
Darparwyd y wybodaeth ganlynol gan ein Cofrestrfa sydd yn prosesu'r ffurflenni cais. Bydd y ffurflen gais ar gael ar-lein a darperir gwybodaeth bellach yn ystod y broses gofrestru. Ar gyfer ymholiadau pellach cysylltwch â: Heledd Edwards 01554 748383 neu heledd.edwards@colegsirgar.ac.uk
Myfyrwyr Newydd – myfyrwyr blwyddyn gyntaf (Heb fod yn seiliedig ar brawf modd)
Mae’r bwrsariaethau hyn ar gael i fyfyrwyr newydd llawn amser – h.y. myfyrwyr blwyddyn gyntaf sy’n byw yn y Deyrnas Unedig ac sy’n cofrestru ar gwrs addysg uwch llawn amser yn y coleg (e.e. Gradd, Gradd Sylfaen neu HND) ac sy’n dal i fynychu ar 1 Chwefror 2022.
Bwrsariaeth Dilyniant Mewnol - £1000
Mae hon yn daladwy mewn dau randaliad ym mis Mawrth 2022 a mis Mehefin 2022 i fyfyrwyr sydd wedi symud ymlaen yn fewnol o gwrs lefel tri yng Ngholeg Sir Gâr / Coleg Ceredigion. Mae rhaid bod myfyrwyr wedi ymgeisio trwy UCAS a bydd angen iddynt ddyfynnu eu rhif UCAS.
Bwrsariaeth Dilyniant Ysgolion Partner - £300
Mae hon yn daladwy ym mis Mawrth 2022 i fyfyrwyr a symudodd ymlaen yn 2021 o ysgol sy’n gydnabyddedig fel partner, h.y. ysgol y mae’r coleg yn cydweithio â hi fel rhan o’r Rhwydwaith 14-19 neu o raglenni ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Bwrsariaeth i Bobl sy’n Gadael Gofal - £500
Mae hon yn daladwy ym mis Mawrth 2022 i fyfyriwr sydd wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol yn flaenorol.
Bwrsariaeth Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg - £500
Mae hon yn daladwy ym mis Mehefin 2022 i fyfyrwyr sy’n cwblhau o leiaf un modiwl o’u blwyddyn gyntaf drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bwrsariaeth Gofal Plant - £500
Mae hon yn daladwy ym mis Mawrth 2022 i fyfyrwyr sy’n rhieni â dibynyddion (o dan 16 ac mewn addysg lawn amser) sy’n byw yn yr un cyfeiriad â nhw.
Bwrsariaeth Cwblhad Llwyddiannus - £300
Mae hon yn daladwy ym mis Mehefin 2022 i fyfyrwyr sy’n cwblhau eu hasesiadau blwyddyn gyntaf (heb unrhyw gyfeirio) ac sy’n symud ymlaen i ail flwyddyn eu cwrs addysg uwch llawn amser yn y coleg (h.y. Gradd, Gradd Sylfaen neu HND).
Bwrsariaeth Cludiant Tocyn Bws - £300
Bydd hon yn talu am bas bws coleg gwerth £300 i’r myfyrwyr hynny sydd ag anawsterau penodol yn ymwneud â chludiant. Bydd cludiant ar gael ar brif lwybrau teithio'r coleg yn unig ac ni ddarperir cerbydau i gludo myfyrwyr i brif lwybrau teithio'r coleg.
Myfyrwyr yr Ail a’r Drydedd Flwyddyn – (myfyrwyr sy’n parhau - heb fod yn seiliedig ar brawf modd)
Mae nifer gyfyngedig o fwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn, sy’n byw yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi cofrestru ar gwrs addysg uwch llawn amser yn y coleg (e.e. Gradd, Gradd Sylfaen neu HND) ac sy’n dal i fynychu ar 1 Chwefror 2022.
Bwrsariaeth Cwblhad Llwyddiannus ar gyfer myfyrwyr yr ail flwyddyn - £300
Mae hon yn daladwy ym mis Mehefin 2022 i fyfyrwyr sy’n cwblhau eu hasesiadau ail flwyddyn (heb unrhyw gyfeirio). Mae hon ar gael i fyfyrwyr ail flwyddyn yn unig.
Bwrsariaeth i Bobl sy’n Gadael Gofal - £500
Mae hon yn daladwy ym mis Mawrth 2022 i fyfyriwr sydd wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol yn flaenorol.
Bwrsariaeth Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg - £500
Mae hon yn daladwy ym mis Mehefin 2022 i fyfyrwyr sy’n cwblhau o leiaf un modiwl o’u hail neu drydedd flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bwrsariaeth Gofal Plant - £500
Mae hon yn daladwy ym mis Mawrth 2022 i fyfyrwyr sy’n rhieni â dibynyddion (o dan 16 ac mewn addysg lawn amser) sy’n byw yn yr un cyfeiriad â nhw.
Bwrsariaeth Cludiant Tocyn Bws - £300
Bydd hon yn talu am bas bws coleg gwerth £300 i’r myfyrwyr hynny sydd ag anawsterau penodol yn ymwneud â chludiant. Bydd cludiant ar gael ar brif lwybrau teithio'r coleg yn unig ac ni ddarperir cerbydau i gludo myfyrwyr i brif lwybrau teithio'r coleg.
Bwrsariaeth Blwyddyn Ryngosod - £300
Mae hon yn daladwy ym mis Mawrth 2022 i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â blwyddyn ryngosod gydnabyddedig fel rhan o’u rhaglen.
Rydyn ni yma i helpu ac rydyn ni am eich cefnogi chi i gyrraedd y man lle mae angen i chi fod.
Dewch i siarad ag unrhyw aelod o’r tîm lles a gwnawn ein gorau i roi arweiniad i chi a’ch cynghori.