Cymorth Dysgu Ar Gyfer Addysg Bellach
Pa fath o gymorth sydd ar gael?
Bydd cymorth yn cael ei deilwra i’ch anghenion chi. Dyma rai enghreifftiau o’r cymorth a all fod ar gael:
- Cymorth darlithwyr arbenigol
- Mynd i’r afael ag aseiniadau ac ysgrifennu adroddiadau
- Trefnu a chynllunio gan gynnwys rheoli amser
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd
- Adolygu ar gyfer arholiadau
- Asesiad ar gyfer addasiadau arholiad (e.e. amser ychwanegol)
- Defnyddio technoleg gynorthwyol ac arbenigol
- Gwella sgiliau prawfddarllen
- Sgiliau cyfathrebu, emosiynol a chymdeithasol
- Meithrin hyder gyda gwaith academaidd
- Proffiliau un dudalen
- Cymorth 1:1, grŵp bach neu ddosbarth cyfan
- Mynediad i Gynorthwy-ydd Cymorth Dysgu
- Cyfeirio at wasanaethau eraill
Technoleg Gynorthwyol
Mae technoleg gynorthwyol ar gael i gefnogi eich annibyniaeth. Mae hon ar gael ar bob un o gyfrifiaduron y coleg ac mae’n cynnwys meddalwedd darllen a mapio meddwl. Yn ogystal, mae gan holl Chromebooks y coleg y cyfleuster i ddefnyddio meddalwedd darllen a theipio llais. Gallwn roi cyngor i chi a’ch dysgu chi sut i ddefnyddio technoleg gynorthwyol.
Pontio
Mae cynllunio ar gyfer eich cymorth yn y coleg yn bwysig i ni. Rydym yn gweithio’n agos gyda chi, rhieni/gwarcheidwaid, ysgolion ac asiantaethau allanol er mwyn helpu i sicrhau bod eich pontio’n rhedeg yn ddiffwdan.
Cyn cofrestru
- Rydym yn bresennol mewn Adolygiadau Myfyrwyr ym Mlwyddyn 10 / 11 fel y gallwn gwrdd â chi a chynllunio eich anghenion cymorth. Trefnir hyn trwy Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol, Gyrfa Cymru ac asiantaethau cymorth allanol.
- Gallwn drafod cymorth a fydd yn cael ei amlinellu yn eich Cynllun Dysgu a Sgiliau neu Gynllun Datblygu Unigol.
- Gallwn roi gwybodaeth am gyrsiau yn y coleg a chymorth a all fod ar gael.
- Gallwn ddweud wrthych am Nosweithiau Agored a digwyddiadau rhagflas, lle gallwch gwrdd â staff Cymorth Dysgu a thrafod anghenion cymorth.
- Rydym yn cynnig ymweliadau â’r campws a sesiynau rhagflas pwrpasol.
- Gallwn ddarganfod os hoffech chi fod yn rhan o weithgareddau pontio er mwyn gwneud eich trosglwyddiad i mewn i fywyd coleg yn fwy llyfn.
Wrth Wneud Cais, Cyfweld a Chofrestru
Os ydych chi wedi penderfynu dod i'r coleg, mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n gallu bodloni eich anghenion cymorth.
- Ffurflen Gais - Gallwch roi gwybod i ni ar y Ffurflen Gais fod gennych angen dysgu ychwanegol, anabledd neu angen meddygol. Gallwn drefnu addasiadau i’ch cyfweliad os oes angen. Yn ogystal, gallwch anfon neges e-bost at y Cydlynydd ADY neu Gydlynwyr Cymorth Dysgu’r Campws i drafod a chynllunio ar gyfer addasiadau rhesymol yn ystod y broses gyfweld.
- Cyfweliad - Hefyd, gallwch roi gwybod i’r person sy’n eich cyfweld os hoffech gael cymorth ar eich cwrs a bod gennych unrhyw anghenion penodol. Os oes tystiolaeth o angen dysgu ychwanegol, anabledd neu gyflwr meddygol, dewch â hi gyda chi er mwyn ein helpu i drefnu eich cymorth.
- Cofrestru - Bydd staff Cymorth Dysgu ar gael i drafod anghenion cymorth. Bydd gennych gyfle arall i roi gwybod i ni am unrhyw anghenion ar y Ffurflen Gofrestru.
- Cynefino - Yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf, bydd sesiwn gynefino Cymorth Dysgu yn esbonio’r cymorth sydd ar gael. Mae pob dysgwr yn cwblhau Holiadur Proffil Unigol sy’n rhoi gwybodaeth hanfodol i ni ynghylch sut rydych chi’n dysgu ac i nodi unrhyw anghenion cymorth.
Sut ydw i'n bwcio apwyntiad?
Os ydych eisoes ar eich cwrs ac yn teimlo eich bod chi angen cymorth gyda gwaith academaidd:
- Gall tiwtor eich cwrs eich atgyfeirio
- Cysylltwch â’r Cydlynydd Cymorth Dysgu ar eich campws
- Galwch heibio’r Parth Astudio ar eich campws
- Os oes tystiolaeth o angen dysgu ychwanegol, anabledd neu gyflwr meddygol, dewch â hi gyda chi er mwyn ein helpu i drefnu eich cymorth.
I gael unrhyw wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â Julia Green (Cydlynydd ADY) julia.green@colegsirgar.ac.uk
Neu’r Cydlynydd Cymorth Dysgu ar eich campws: