Cynghori.

Mae Gwasanaeth Cynghori Coleg Ceredigion yn rhan o adran Cefnogi Dysgwr ac yn darparu cyngor i bob myfyriwr sydd wedi'i gofrestru ar unrhyw un o'r campysau ar draws y coleg.

Beth yw cynghori?

Weithiau cyfeirir at gynghori fel ‘therapi siarad’. Mae cynghorwyr yn defnyddio'u sgiliau i'ch helpu i ddeall yn well y materion sy'n achosi pryder i chi. Gallai'r rhain gynnwys siarad am ddigwyddiadau bywyd yn y presennol neu'r gorffennol, teimladau, perthnasau, a ffyrdd o feddwl neu batrymau ymddygiad. Gall cynghori eich helpu i ddod o hyd i well ffyrdd o ymdopi gydag unrhyw anawsterau y gallwch fod yn eu hwynebu. Gall cael mynediad i'ch gwasanaeth cynghori wella eich profiad fel myfyriwr gan ddarparu cyfle i chi archwilio eich problemau mewn sefyllfa ddiogel a phreifat. Mae'r tîm o gynghorwyr yn weithwyr proffesiynol tra chymwysedig a phrofiadol a fydd yn gweithio ochr yn ochr â chi i greu newid positif. 

Gyda beth gall cynghori helpu?

Mae'r cynghorwyr yn brofiadol mewn gweithio gyda llawer o wahanol faterion. Mae cynghori ar gyfer unrhyw un sy'n cael anawsterau o unrhyw fath, os yw'n achosi pryder i chi yna mae o bwys. Gallai rhai o'r pryderon hyn fod fel a ganlyn:

  • Pryder
  • Materion diffyg hyder/hunanwerth
  • Iselder / hwyliau isel
  • Camddefnydd alcohol / cyffuriau
  • Profedigaeth / colled
  • Bod yn ofalwr
  • Unigrwydd / teimlo’n unig
  • Anawsterau gartre
  • Anawsterau perthynas
  • Pethau ddigwyddodd yn y gorffennol
  • Problemau gyda rhywioldeb neu ryw
  • Camdriniaeth
  • Teimlo’n ddryslyd neu’n anhapus
  • Colli cyfeiriad mewn bywyd
  • Newidiadau rydych yn eu cael yn anodd
  • Hunan-niweidio/teimlo'n hunanddinistriol

Sut ydw i'n gwneud apwyntiad?

Gallwch chi gyfeirio eich hun ar gyfer cynghori trwy ffonio, tecstio neu e-bostio Ian Rogers, ein cynghorydd ian.rogers@ceredigion.ac.uk 07794 655845.  Yn ogystal gallwch siarad â’r Swyddogion Lles Myfyrwyr, mentoriaid neu eich tiwtor sydd hefyd yn gallu eich cyfeirio, os oes yn well gennych.

Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn gwneud apwyntiad?

Unwaith y mae myfyriwr yn gofyn am gynghori rydym yn trefnu apwyntiad cyn gynted â phosibl. Yn dilyn hyn mae'n bosibl y bydd cyfnod bach o aros i'r sesiynau cynghori ddechrau, yn dibynnu ar y galw. Byddwn yn blaenoriaethu myfyrwyr sydd mewn argyfwng ac angen cefnogaeth frys. Bydd y cynghorwr yn rhoi gwybod i chi lle mae'r ystafell gynghori a bydd hyn yn dibynnu ar ba gampws rydych chi.

Beth os oes arna i angen siarad â rhywun ar frys?

Os nad oes cynghorwr ar gael gallwch chi siarad â Mentor neu ein Swyddogion Lles Myfyrwyr. Ewch i’r adran cefnogi dysgwyr a gofynnwch i siarad ag aelod o’r Tîm Lles. Byddan nhw'n gwrando arnoch chi ac yn helpu i'ch cyfeirio at y gefnogaeth iawn i chi.

Cyfrinachedd

Ni fydd y cynghorwyr yn dweud wrth diwtoriaid, aelodau'r teulu na ffrindiau eich bod wedi bod i'w gweld. Ni fyddant yn trafod hyn gydag unrhyw un, oni bai eich bod wedi cytuno ar hyn gyda’ch gilydd ymlaen llaw. Ar adegau prin, efallai bydd rhaid i gynghorwr siarad â rhywun arall ynghylch yr hyn sy'n digwydd. Dim ond os oes perygl uniongyrchol i chi neu eraill y byddai hyn yn digwydd. Bydd y cynghorwr yn esbonio holl agweddau cyfrinachedd yn llawn i chi yn ystod eich apwyntiad cyntaf. Mae holl gynghorwyr y coleg yn aelodau o Gymdeithas Cynghori a Seicotherapi Prydain (BACP) ac maent yn gweithio yn ôl côd moeseg llym.

Am fwy o wybodaeth: http://www.bacp.co.uk

 

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB