Gyrfaoedd.

Mae Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ar gael ar bob campws.

Beth bynnag yw eich oedran, yn astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser, gallwch gael mynediad i gyfarwyddyd gyrfaol yn un o ganolfannau Gyrfa Cymru.  Yn ychwanegol, bydd pob dysgwr llawn amser yn derbyn rhaglen gynlluniedig o addysg a chyfarwyddyd gyrfaol trwy diwtorialau, a fydd yn ategu canlyniadau dysgu cydnabyddedig.

Gall Ymgynghorwyr Gyrfaoedd o Gyrfa Cymru roi cymorth i chi ar-lein yn www.careerswales.com neu dros y ffôn. Gallant eich helpu i ddewis gyrfa, addysg uwch, a chael mynediad i wybodaeth yrfaol a galwedigaethol gyfredol, chwilio am swyddi a’r swyddi gwag diweddaraf.

Os oes angen help Gyrfaoedd arnoch, cysylltwch â Gyrfa Cymru, neu gofynnwch i'ch tiwtor neu i staff Gwasanaethau Dysgwyr.

 

 

Efallai byddwch am ymweld â’n Gŵyl Yrfaoedd Ceredigion flynyddol yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Yma rydym yn ymuno â Gyrfa Cymru i ddod â rhai o gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant mwyaf Gorllewin Cymru at ei gilydd.

Gyda mwy na 80 o arddangoswyr o bob cwr o Gymru yn mynychu’r digwyddiad undydd, cewch gyfle i gwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb, profi eich sgiliau ar stondinau Troi-eich-Llaw, a dod i wybod mwy am swydd eich breuddwydion. Hefyd gallwch chi ddod i wybod mwy am yrfaoedd a phrentisiaethau gyda chwmnïau megis, Heddlu Dyfed Powys, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion, a llawer mwy.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB