Bydd cynllun Cynnydd yn gweithio gyda'r rheiny rhwng 11 a 24 mlwydd oed sydd mewn perygl o fod yn NEET (Nid ydynt mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant). Mae'r Coleg yn gallu defnyddio'r prosiect Cynnydd i roi ar waith ystod o fesurau cymorth ychwanegol.
Mae'r prosiect gwerth £19 miliwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a bydd yn rhedeg tan Rhagfyr 31ain 2022. Bydd yn gweithio gydag o gwmpas 4,500 o bobl ifanc ar draws Gorllewin Cymru.
Arweinir Cynnydd gan Gyngor Sir Penfro a'i gyflwyno mewn partneriaeth â chyd-awdurdodau lleol a Cholegau AB ynghyd â Gyrfa Cymru yng Ngheredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Bydd darparwyr hyfforddiant preifat a thrydydd sector hefyd yn cymryd rhan.
Mae gan Goleg Ceredigion dîm prosiect a neilltuwyd yn arbennig i'ch cynghori ar sut y gallwch chi elwa ar y cymorth hwn. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:-
Rheolwr y Prosiect:- Meinir Lewis E-mail - Meinir.Lewis@ceredigion.ac.uk Tel:- 07770 971780 / 01239 612032