Prosiect Cynnydd

Canlyniadau Diwedd Gweithrediadau Cynnydd Coleg Ceredigion

Daeth y gwaith o gyflwyno’r prosiect i ben ar 30ain Tachwedd 2022 a pharhaodd gweinyddiaeth y prosiect tan 28ain Chwefror 2023. Nod y prosiect oedd lleihau’r risg o NEET (nid ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant) ymhlith pobl ifanc rhwng 11-24 oed.

Ers i’r prosiect ddechrau ym mlwyddyn academaidd 2016/17, mae’r prosiect wedi cefnogi 176 o fyfyrwyr Coleg Ceredigion, gyda 156 o’r rheiny mewn llai o berygl o ddod yn NEET.

Mae staff cyflwyno Cynnydd wedi gweithio oriau di-rif dros y 6 blynedd diwethaf i sicrhau bod darpariaeth Cynnydd o fudd i fywydau’r dysgwyr, ac yn eu cefnogi yn eu hymdrechion yn y dyfodol.


Mae Coleg Ceredigion yn cyflwyno’r llinynnau ymyriad canlynol:

Cefnogaeth Fentora: Mae mentoriaid ar gael ar bob campws ar gyfer cymorth un i un cyfrinachol. Gall mentor eich helpu a'ch cynghori mewn perthynas ag ystod eang o faterion er mwyn eich cefnogi i oresgyn rhwystrau sy'n effeithio arnoch gan gynnwys cyfeirio at gymorth allanol.

Cefnogaeth Gynghori: Mae cynghorwyr yn brofiadol mewn gweithio gydag ystod eang o faterion ac maen nhw’n defnyddio'u sgiliau i'ch helpu i ddeall yn well y materion sy'n achosi pryder i chi. Gall cynghori eich helpu i ddod o hyd i well ffyrdd o ymdopi gydag unrhyw anawsterau y gallwch fod yn eu hwynebu. 

Olrhain a Monitro: Gall staff olrhain a monitro gynorthwyo dysgwyr gyda materion eang gan gynnwys sgiliau academaidd, cymorth adolygu, gwaith cwrs, rheoli amser, sgiliau trefnu a chynllunio, hyder, hunan-barch, datrys problemau a sgiliau cyflogadwyedd.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:


Rheolwr Prosiect Cynnydd:

Meinir Lewis
E-bost - Meinir.Lewis@ceredigion.ac.uk Ffôn:- 07770 971780 / 01239 612032

Swyddog Data a Gweinyddiaeth Cynnydd: Elle Taylor. 
E-bost- Elle.Taylor@colegsirgar.ac.uk Ffôn:- 01554 748090

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01970 639700
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB