Mae’r Cambridge Technical yn gymhwyster galwedigaethol ar lefel tri. Maen nhw’n sylfaen ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy’n ymuno â’r gweithle, gan roi cefndir damcaniaethol iddynt a gaiff ei atgyfnerthu â sgiliau ymarferol sy’n trosglwyddo i’r gweithle modern. Mae’r diploma estynedig yn gyfwerth â thri phwnc Safon Uwch ac mae pob uned yn cael ei graddio ar lefel pas (P), teilyngdod (T) a rhagoriaeth (Rh).
Mae’r cymhwyster newydd hwn wedi’i anelu’n benodol at fyfyrwyr 16 oed ac mae wedi’i gynllunio i fod yn fwy perthnasol i addysg bellach yn ogystal â darparu sgiliau perthnasol a dymunol ar gyfer y gweithle.
Caiff y cwrs ei rannu’n ddau sector (creadigol a thechnegol). Mae’r rhan greadigol yn cynnwys sawl modiwl animeiddio gan gynnwys stop-symudiad, animeiddio 2D a dylunio gemau cyfrifiadur. Mae’r adran dechnegol yn cynnwys modiwlau ar ddatblygu gwefannau, technolegau a rheolaeth rhwydweithiau, cymorth technegol, cyfryngau cymdeithasol, e-fasnach a diogelwch. Mae gennym gysylltiadau cryf â stiwdios Aardman ym Mryste (cynhyrchwyr Wallace and Gromit) yn ogystal â llwybrau i’r brifysgol gyda Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant.
Mae'r cwrs yn gwrs sbectrwm eang sy'n rhoi blas o faes eang y diwydiant TG. Mae wedi'i gynllunio i fod yn bellgyrhaeddol er mwyn rhoi cipolwg ar y diwydiant i ddarpar ddysgwyr gan ganiatáu iddynt gael trosolwg da o'r maes cyn gwneud unrhyw benderfyniadau i arbenigo.
Cipolwg
Llawn Amser
2 Flynedd
Campws Aberteifi
Nodweddion y Rhaglen
Prentisiaethau
Gwaith mewn gweithleoedd cysylltiedig â Thechnoleg Gwybodaeth
Cwrs coleg arall ar lefel uwch
Cwrs gradd mewn prifysgol
Cychwyn busnes (entrepreneuriaeth)
Asesu'r Rhaglen
Asesu parhaus drwy waith aseiniad.
Gofynion y Rhaglen
5 TGAU graddau A* - C, sy’n cynnwys naill ai Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu Saesneg Iaith a Mathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol L2 yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda Theilyngdod neu uwch.
Costau Ychwanegol
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw'r adran yn trefnu ymweliadau addysgol