Coleg Sir Gâr, ynghyd â Choleg Ceredigion a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw’r darparwr prentisiaethau mwyaf yn y rhanbarth gan gynnig amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi i gefnogi cwmnïau preifat bach, sefydliadau rhyngwladol mawr a’r sector cyhoeddus.
Rhaglen cyllido a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop dan arweiniad Llywodraeth Cymru yw’r rhaglen Hyfforddiant Prentisiaethau. Mae’r rhaglenni hyfforddiant hyn sy’n seiliedig ar waith yn cynnwys dysgwyr o bob oed, sy’n datblygu a gwella’u sgiliau wrth hyfforddi yn y gwaith.
Caiff prentisiaethau eu cynllunio gan gyflogwyr i adlewyrchu anghenion cyfredol y farchnad a diwydiant. Maen nhw’n cynnig rhaglen strwythuredig sy’n rhoi’r sgiliau angenrheidiol i’r Prentis allu gwneud y swydd yn dda. Bydd gweithwyr yn gweithio at eu cymhwyster Prentisiaeth drwy astudio sgiliau technegol a chynnal asesiadau ymarferol.
Unrhyw un sy’n gyflogedig a thros 16 oed, nad yw mewn addysg lawn amser. Mae prentisiaid yn ennill cyflog ac yn gweithio ochr yn ochr â staff profiadol i ennill sgiliau penodol i’w swydd. Y tu allan i’r gwaith, fel arfer drwy gael eu rhyddhau am ddiwrnodau penodol, mae prentisiaid yn derbyn hyfforddiant i weithio at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.
Mae’n bwysig cofio y gall Prentisiaid fod yn gyflogeion newydd neu rai sydd eisoes yn bodoli a does dim angen newid y disgrifiad swydd na’r telerau ac amodau wrth ymgeisio am gyllid Prentisiaeth ar gyfer gweithwyr sydd eisoes yn gyflogedig.
Manteision allweddol:
Gall prentisiaethau gymryd rhwng un a phedair blynedd i’w cwblhau gan ddibynnu ar y lefel, gallu’r Prentisiaid a’r sector diwydiant. Gallwch hefyd barhau’n brentis wrth symud o un cymhwyster i un arall.
Ceir lefelau gwahanol o Brentisiaethau:
Mae’r gofynion mynediad yn hyblyg gan nad yw Prentisiaethau’n seiliedig ar gyflawniad academaidd yn unig. Caiff sgiliau ymarferol a’r lefel o ddiddordeb rydych chi’n ei ddangos eu hystyried. Rhaid i chi fod mewn cyflogaeth i ymgymryd â Phrentisiaeth, ond os nad ydych chi’n gyflogedig ar hyn o bryd gallwn eich helpu i ddod o hyd i swydd addas drwy’r Gwasanaeth Cydweddu Prentisiaethau.
Gall prentis ychwanegu syniadau, egni a thalent newydd i’ch busnes ac mae wedi’i brofi bod prentisiaid yn cyfrannu at gystadleurwydd sefydliadau. Mae prentisiaid yn awyddus i ddysgu, yn uchel eu cymhelliant a thrwy greu rolau prentis, byddwch chi’n agor y drws i arloesi ac yn ychwanegu gwerth i’ch busnes.
Er bod modd i weithiwr o unrhyw oed ymgeisio i gofrestru ar raglen Prentisiaeth, efallai na fydd angen i’r rheini dan 25 oed dalu Cyfraniadau YG Cyflogwyr (Cliciwch yma am ragor o wybodaeth).
Mae prentisiaethau yn helpu i sicrhau bod gan eich gweithlu’r sgiliau ymarferol yn ogystal â’r cymwysterau i fodloni anghenion eich busnes heddiw ac yn y dyfodol.
Gall unrhyw gyflogwr gyflogi prentis. Mae angen i chi fod mewn sefyllfa i dalu’r isafswm cyflog i’r prentis a chyflogi’r prentis am o leiaf 16 awr yr wythnos.
Ceir cymhelliannau ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda’r costau cyflogaeth hyn a gallech chi fanteisio arnyn nhw os ydych chi’n gymwys.
Bydd rhaglen Hyfforddeiaeth yn rhoi’r cymorth, y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnoch chi i symud ymlaen i gyflogaeth, Prentisiaeth neu ddysgu ar lefel uwch
Os oes gennych chi ddiddordeb yn y rhaglen Hyfforddeiaeth bydd angen i chi wneud apwyntiad yn eich swyddfa Gyrfa Cymru leol, lle cewch chi gyfweliad arweiniol ac atgyfeiriad i’r rhaglen gobeithio.
I drafod eich anghenion hyfforddi Prentisiaeth ymhellach ffoniwch01970 639700 heddiw neu ebostio business@ceredigion.ac.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Hyfforddeiaeth cysylltwch â Wyn David drwy ebost: wyn.david@colegsirgar.ac.uk