Cysylltiedig

Fel myfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rydych chi’n aelodau o Undeb y Myfyrwyr yn awtomatig. 

Mae hyn yn golygu eich bod yn gallu manteisio’n llawn ar bopeth sydd gennym i'w gynnig, gan gynnwys digwyddiadau coleg, cynrychiolaeth myfyrwyr a gwybodaeth am fywyd myfyrwyr.

Ein gwaith ni yw gwneud yn siŵr eich bod yn cael profiad gwych yn ystod eich amser yn y coleg a bod myfyrwyr yn cael eu cynrychioli’n llawn a’u safbwyntiau’n cael eu clywed.

Er mwyn eich cynrychioli'n iawn fel dysgwyr, mae'n bwysig ein bod yn cael ein cyfarwyddo gan eich syniadau a'ch profiadau chi. 

Rhowch wybod i ni beth rydych yn ei feddwl trwy gysylltu ag un o'ch swyddogion myfyrwyr etholedig, cynrychiolwyr cwrs neu lywydd Undeb y Myfyrwyr trwy anfon e-bost i Undeb y Myfyrwyr yn studentunion@colegsirgar.ac.uk

Rydyn ni’n credu bod cynrychiolaeth a barn myfyrwyr yn hanfodol i lwyddiant Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion ac wrth ddod yn rhan o'r tîm swyddogion, byddwch yn cynrychioli myfyrwyr ar draws pob campws.  

Bydd y llywydd yn cymryd lle ar y lefel uchaf ac yn dod yn aelod o Fwrdd Corfforaethol y coleg.  Bydd y cyfle hwn yn rhoi siawns i fyfyrwyr rannu eu safbwyntiau a'u barn gydag arweinwyr y coleg.  Yn ogystal â rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau, byddwch chi'n gallu cynnwys y profiad o ddod yn swyddog ar eich datganiad personol UCAS a'ch ceisiadau am swyddi, gan wneud i chi sefyll allan o'r dorf!

Connected

Kind

Respectful

Mae gan Undeb Myfyrwyr y coleg hanes o ymgyrchoedd arobryn megis Tlodi Mislif (2019). 

Roedd tîm Undeb y Myfyrwyr yn rhan annatod o’r lobïo dros "Fy Ngherdyn Teithio" ac o ganlyniad estynnwyd y cynllun hwn i gynnwys y rheiny sy’n 16-21 oed.  Arweiniodd yr ymdrechion hyn at wobr gan UCM Cymru am Sefydliad AB y Flwyddyn yn 2018, ac ail safle yn 2019, ynghyd â Gwobr Addysg ar gyfer Hybwyr Parch yn 2019. 

Roeddem yn falch i weld un o’n llywyddion blaenorol, Ebbi Ferguson, yn cael ei hethol yn Ddirprwy Lywydd UCM Cymru 2015-17.  

Cardiau NUS Extra/Totum

Mae gan bob myfyriwr yr hawl i brynu cerdyn disgownt myfyrwyr neu gerdyn Totum, a fydd yn costio £14.99 y flwyddyn (neu £24.99 am 3 blynedd ar hyn o bryd) ac sy'n gallu arbed arian i chi gyda chostau teithio, dillad, adloniant a llawer mwy.  Am ragor o wybodaeth dylech gysylltu â’r Swyddog Cyswllt Myfyrwyr ar eich campws, cliciwch ar y ddelwedd Totum ar frig y dudalen hon neu ewch i: https://www.totum.com

Clybiau a Chymdeithasau

Mae yna nifer o glybiau a grwpiau cymdeithasol dan arweiniad myfyrwyr sy'n ymgynnull i rannu eu diddordebau cyffredin ac mae'r rhain yn ffyrdd gwych o gwrdd â phobl newydd. 

Bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi o gwmpas y campysau i hysbysebu beth sy'n digwydd a ble. Os nad ydych yn gweld cymdeithas sydd o ddiddordeb i chi beth am ddechrau un eich hun?

Gallwch chi ddechrau clwb neu gymdeithas ar gyfer bron unrhyw beth, yna gallwch chi ddenu aelodau a chefnogaeth Undeb y Myfyrwyr a fydd efallai yn gallu eich helpu gyda pheth arian i gynnal eich gweithgareddau.

Bydd Tîm Lles y coleg yn gallu eich helpu i ddod i gysylltiad â'r bobl iawn i roi pethau ar waith, felly os oes gennych ambell syniad, cofiwch eu rhannu nhw.  Dyma rai o’r grwpiau sy’n rhedeg ar hyn o bryd:

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB