Coleg Ceredigion yw'r unig goleg addysg bellach yng Nghymru sy'n cynnig cyrsiau mewn gwneud dodrefn ar lefelau dau a thri. Fel pwnc ymarferol ond creadigol, gall ein cyrsiau mewn gwneud dodrefn fod yn llwybr delfrydol tuag at yrfa werth chweil. Y cymhwyster lefel dau yw'r man cychwyn delfrydol, gan roi’r sgiliau sylfaen sydd eu hangen arnoch i ddilyn gyrfa fel dylunydd a gwneuthurwr dodrefn.
Mae'r cwrs hwn gan Gorff Dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yn sicrhau eich bod yn cael cipolwg ar bob agwedd ar ddylunio, gwneud a gorffennu dodrefn, o safbwynt ymarferol a damcaniaethol hefyd. Dros y flwyddyn, bydd yn ofynnol i chi ddilyn dau friff dylunio gosod (gwneud bwrdd a chabinet) yn ogystal â dylunio a gwneud eich darn o ddodrefn eich hun.
Byddwch yn dysgu sut i saernïo uniadau â llaw ac â pheiriant, gan ddefnyddio ystod o bren caled o ffynonellau lleol. Ymhlith y pynciau eraill yr ymdrinnir â hwy mae lluniadu technegol, technoleg pren, cynaliadwyedd, iechyd a diogelwch a mwy. Bydd eich ymdrechion yn diweddu gydag arddangos eich gwaith yn yr arddangosfa dylunio dodrefn ar ddiwedd y flwyddyn.
Cipolwg
Llawn Amser
Blwyddyn
Campws Aberteifi
Nodweddion y Rhaglen
Mae’r cyfleusterau yn y gweithdai dodrefn heb eu hail, maent yn llawn offer llaw, peiriannau gwaith coed, llwybrydd CNC, torrwr laser ac odyn solar a ddefnyddir i sychu pren yn gynaliadwy. Byddwch yn ennill gwybodaeth a phrofiad yn y sesiynau ymarferol yn ogystal â mewn dosbarthiadau meistr a gynhelir bob blwyddyn gan grefftwyr enwog yn y diwydiant. Byddwch yn datblygu eich sgiliau ymarferol yn y gweithdy tra’n dysgu am dechnoleg pren a datblygu cynnyrch gyda’n tîm o ddarlithwyr a thechnegwyr profiadol.
Cynnwys y Rhaglen
Mae unedau craidd yn cynnwys:
Gwneud dodrefn â llaw
Rhoi drysau a droriau’n sownd
Dulliau gorffennu
Cynaladwyedd
Technoleg pren
Iechyd a diogelwch
Lluniadu technegol
Prosesau dylunio
Datblygiad gyrfa a chyfrifoldebau proffesiynol
Dilyniant a Chyflogaeth
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi'r sgiliau a'r hyder i chi symud ymlaen i’n cwrs diploma lefel tri mewn dylunio, gwneud ac adfer dodrefn yng Ngholeg Ceredigion. Efallai y byddwch yn dymuno symud ymlaen i'r cwrs lefel 3, i gyflogaeth yn y diwydiant gwneud dodrefn, neu hunangyflogaeth. Pa bynnag opsiwn y penderfynwch arno, cewch eich cefnogi gan ein staff cyfeillgar.
Asesu'r Rhaglen
Caiff unedau eu hasesu'n fewnol ac yn allanol. Mae'r coleg yn cynllunio ac yn asesu'r asesiadau mewnol trwy aseiniadau a chyfranogiad gweithredol. City & Guilds sydd yn gosod ac yn marcio'r asesiadau allanol.
Gofynion y Rhaglen
4 TGAU graddau A* - D gyda 2 radd C, un naill ai’n Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu Fathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol L1 yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol. Gellir derbyn myfyrwyr hŷn heb gymwysterau yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus. Gofynnwn i chi fod â diddordeb gwirioneddol yn y pwnc. Mae ymrwymiad a brwdfrydedd yn hanfodol er mwyn cael y budd mwyaf o'r cwrs.
Costau Ychwanegol
Mae ffi gweithdy o £50 yn cwmpasu deunyddiau ar gyfer 2 brosiect craidd. Deunyddiau prosiect ychwanegol i'w trafod cyn gwneud.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich Esgidiau Diogelwch eich hun (blaenau troed amddiffynnol), tâp mesur a deunydd ysgrifennu. Darperir yr holl offer eraill. Gall rhai teithiau arbenigol olygu costau ychwanegol.
Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557. Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB