Byddwch yn Ddwyieithog - Ewch ati i Wella eich Cyfleoedd
Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i ddatblygu eu darpariaeth a’u hethos dwyieithog. Rydym yn hyrwyddo dwyieithrwydd ac yn annog ein holl fyfyrwyr i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg.
Mae’r Gymraeg yn unigryw i Gymru ac yn bwysig iawn i ni fel coleg. Gall pawb sy’n byw yng Nghymru fod yn falch o’r iaith, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ei siarad hi eu hunain. Mae’r iaith yn perthyn i bawb sy’n byw yma ac mae buddion addysgol, cyflogadwyedd a chymdeithasol o fod yn gallu siarad dwy iaith. Gallwch fod yn rhan o ddau ddiwylliant a mwynhau’r amrywiaeth o idiomau, dywediadau, hanes, barddoniaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth a thraddodiadau. Mae siarad Cymraeg, hyd yn oed ar lefel sylfaenol iawn, yn wych ar gyfer eich CV a gallai agor drysau i bob math o gyfleoedd i chi yn y dyfodol.
Bellach mae llawer o swyddi yng Nghymru yn gofyn am y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg hefyd, felly gallai astudio’n ddwyieithog roi mantais i chi pan fyddwch chi’n chwilio am waith.
Mae eich sgiliau dwyieithog yn werthfawr iawn a dylech fanteisio ar y cymorth y gallwn ei roi i chi yn y coleg i ddatblygu’r sgiliau hynny ymhellach. Gallwn eich helpu i wella eich cyfleoedd gyrfa drwy ganiatáu i chi:
- Astudio ystod o gyrsiau yn ddwyieithog
- Datblygu eich sgiliau iaith
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau Cymraeg.