Agorodd Coleg Rhithwir Coleg Sir Gâr am y tro cyntaf yn 1998, gan gynnig nifer fach o gyrsiau TG. Ers datblygiad technoleg, sydd wedi newid meddylfryd pobl tuag at ddysgu ar-lein a'r gallu i gynnig ein cyrsiau yn fyd-eang, rydym wedi datblygu ein darpariaeth i gynnig ystod gyffrous o gyrsiau achrededig.
Rydym yn darparu ar gyfer y cwmni neu'r sefydliad yn ogystal â'r unigolyn, gan weithio'n agos gyda'n myfyrwyr, cyflogwyr a'n hymgynghorwyr gyrfa i gefnogi anghenion Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Rydym yn cynnig dros 1000 o gyrsiau, gellir cael mynediad i lawer ohonynt yn fyd-eang ac rydym yn gweithio gyda chyrff dyfarnu sy'n cynnwys EdExcel, BCS, Sage, PRINCE2 a City and Guilds.
Rydym wedi datblygu cyrsiau newydd yn ddiweddar yn benodol ar gyfer athrawon ac rydym yn cynnig cyrsiau mewn TG a busnes ar gyfer defnyddwyr Apple Mac.
Mae cyrsiau perthnasol i gyflogaeth yn cynnwys Cyfraith Cyflogaeth, Iechyd a Diogelwch gan gynnwys hylendid bwyd yn ogystal â Mathemateg, Saesneg, cyfrifeg Sage a llawer mwy.
Talu: Gellir talu drwy siec, cerdyn credyd, paypal neu gallwch anfon anfoneb i'ch cyflogwr neu bartner ariannu.
Hyfforddiant a chymwysterau rhan-amser, hyblyg, wedi'u hariannu'n llawn
Am ragor o fanylion, neu i ofyn am daflen gyrsiau, cysylltwch â ni ar 01554 748179 neu anfonwch e-bost i admissions@colegsirgar.ac.uk