Byddwch yn Actif

Mae Byddwch Actif wedi’i sefydlu yng Ngholeg Sir Gâr ers 2009.  

A elwid gynt yn 5x30, cafodd y rhaglen ei sefydlu a'i chynllunio i ysbrydoli myfyrwyr i ymgysylltu â chwaraeon a gweithgaredd corfforol.  

Roedd 5x30 yn fenter gan Chwaraeon Cymru i annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol am 30 munud, pum diwrnod yr wythnos.

Deuddeg mlynedd yn ddiweddarach, mae Byddwch Actif wedi esblygu i fod yn rhaglen sydd wedi'i chynllunio'n benodol i fyfyrwyr (ac yn aml gan fyfyrwyr) i barhau ar y siwrnai actif honno yn y coleg - yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion a thu hwnt.  

Mae yna amryfal ffyrdd o gymryd rhan yn Byddwch Actif; chwaraeon tîm, dosbarthiadau amser cinio, sesiynau galw heibio, gwersi wedi'u hamserlennu, cydio a mynd, cystadlaethau, digwyddiadau, gwirfoddoli a mwy.  

Mae Byddwch Actif yn rhan bwysig iawn o fywyd coleg, ac rydyn ni'n ceisio annog pob myfyriwr ar bob campws a chwrs i fanteisio'n llawn ar y r amrywiol gynigion er mwyn cyfoethogi eu profiad yn y coleg.  

Er y bydd Byddwch Actif yn edrych yn wahanol ar hyn o bryd, rydyn ni’n dal yn ymroddedig i ddod â rhaglen lawn i chi a fydd yn tanio cariad tuag at chwaraeon a gweithgaredd corfforol.  

Dewch gyda ni ar y daith newydd hon wrth i ni barhau i ddarparu amrywiaeth, hwyl, ffitrwydd a mwy.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB