GAREDIG

Mae menter y coleg sy’n anelu at annog tosturi a charedigrwydd cymunedol wedi cael ei lansio yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.

Cafodd menter Cariad (sy’n golygu love), ei lansio ar Ddydd Sant Ffolant ar saith campws yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. 

Ei nod yw annog a chydnabod gwaith gwirfoddol ac elusennol yn ogystal â chydnabod cyfraniadau positif a gweithredoedd o garedigrwydd ar draws y colegau.

Ers lansiad Cariad, bydd Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn enwebu elusen i godi arian ar ei chyfer bob blwyddyn, ac eleni dewiswyd Ambiwlans Awyr Cymru ynghyd â saith elusen arall, yn cynrychioli pob campws ar draws y colegau.

Daeth Elin Wyn-Murphy, sy’n gydlynydd cymunedol gydag Ambiwlans Awyr Cymru, i ymweld â champws y Graig Coleg Sir Gâr yn Llanelli i gefnogi dathliadau Cariad a oedd yn cynnwys perfformiadau, triniaethau harddwch a gwerthiant nwyddau wedi pobi. 

Aeth campysau eraill ar draws y ddwy sir ati i drefnu digwyddiadau’n cynnwys codi arian drwy olchi ceir yn y canolfannau cerbydau modur, rhoi eu sgiliau patisserie ar brawf wnaeth y myfyrwyr arlwyo a gwnaeth Undeb y Myfyrwyr rodd o elw’r bwrdd pŵl.

Meddai Nikki Neale, uwch-gyfarwyddwr ar gyfer profiadau dysgu yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Roedden ni wrth ein bodd yn estyn croeso i Elin Wyn-Murphy i roi cychwyn ar lansio ein menter Cariad gan ein bod am ddathlu’r cyfraniadau cadarnhaol a wneir gan ein dysgwyr a’n staff i’r coleg a’r gymuned ehangach.

“Mae myfyrwyr a staff wedi croesawu’r cynllun Cariad yn galonnog ac mewn byd lle y gwelir cymaint o negyddoldeb, mae’n hyfryd gweld y ddau goleg yn canolbwyntio ar hyrwyddo caredigrwydd a phositifrwydd.

“Gellir enwebu staff a myfyrwyr sydd wedi arddangos ymddygiad codi arian neu ymddygiad gofalgar neilltuol  a byddant yn derbyn gwobrau Cariad unigol a wnaed â llaw gan ein timau gwaith saer ar gampws Rhydaman.

Dangosodd Lee Waters AC, ei gefnogaeth i’r lansiad yn ystod ymweliad â’r coleg i longyfarch ein henillwyr medalau yng nghystadleuaeth Sgiliau’r DU.

Ysbrydoli Dysgwyr

Instagram free icon                     

Cysylltwch â ni

Maes y Parc
Aberteifi
SA43 1AB
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Cysylltwch â ni

Llanbadarn Fawr
Aberystwyth 
SY23 3BP
01239 612032
enquiries@ceredigion.ac.uk

Mae Coleg Ceredigion yn gwmni cyfyngedig trwy warant sydd wedi ei gofrestru yn Lloegr a Chymru Rhif 08725643 ac mae'n elusen gofrestredig Rhif 1154557.
Mae'r swyddfa gofrestredig ym Maes y Parc, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1AB