Fel Tîm Lles rydym yn cynnig cefnogaeth i'n holl ddysgwyr a deallwn fod gan rai unigolion gyfrifoldebau gofalu a all effeithio ar eu dysgu.
Mae'r coleg yn falch o fod wedi derbyn Gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr ac ar hyn o bryd mae’n gweithio tuag at gyflawni'r Wobr Arian.
Gobeithiwn fod hyn yn dangos i'n dysgwyr presennol a’n darpar ddysgwyr ein bod wedi ymrwymo i ddarparu help, cymorth a chyngor i'n holl ddysgwyr sydd â chyfrifoldebau fel gofalwyr. Rydym yn gwerthfawrogi y gall fod adegau pan fydd eich cyfrifoldebau fel gofalwyr yn effeithio ar eich dysgu ond rydym yn eich annog i siarad ag aelod o'r Tîm Lles fel y gallwn wneud addasiadau rhesymol i helpu i leddfu straen pellach.
Gall gofalwyr fynd at y Tîm Lles yn hyderus er mwyn cael eu cyfeirio at sefydliadau allanol perthnasol a all gynnig cymorth pellach i chi, neu i adnoddau perthnasol. Os dymunwch, gallwn hefyd eich cefnogi chi i gofrestru fel gofalwr gyda'ch meddyg teulu neu i gael eich cyfeirio at ein cynghorydd coleg. Efallai mai jest sgwrsio am bethau hoffech chi ei wneud - rydyn ni yma i'ch cefnogi chi gyda hynny hefyd.
Rydym fel coleg wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr a gofalwyr ifanc ac yn dathlu digwyddiadau blynyddol fel Wythnos Ymwybyddiaeth Gofalwyr a Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc.